Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Niwsans statudol oherwydd golau artiffisial


Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer y cwynion y mae awdurdodau lleol yn eu derbyn ynghylch golau artiffisial.

Gall golau sydd wedi cael ei osod yn wael ymyrryd ar bobl eraill. Mae newidiadau yn y ddeddfwriaeth yn golygu bod niwsans oherwydd golau artiffisial bellach wedi ei gynnwys yn y Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 sy’n diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol o’r herwydd i ymchwilio i unrhyw gwynion ynghylch niwsans oherwydd golau artiffisial.

Caiff ei ddiffinio fel “golau artiffisial sy’n tywynnu o eiddo mewn modd sy’n cael effaith andwyol ar iechyd neu sy’n achosi niwsans”. 

Yn aml iawn, goleuadau diogelwch masnachol a llifoleuadau mewn cyfleusterau byw’n iach a chwaraeon yw ffynonellau goleuadau o’r fath. 

Er bod y gyfraith yn cydnabod yr angen am oleuadau artiffisial o’r fath ar gyfer defnydd masnachol, bydd swyddogion iechyd yr amgylchedd yn ymchwilio i gwynion ynghylch niwsans ond bydd gweithredwyr cyfleusterau o’r fath fel arfer yn gallu manteisio ar yr amddiffyniad ‘dulliau ymarferol gorau’.  Mewn gwirionedd felly, mae’r darpariaethau newydd hyn yn canolbwyntio ar oleuadau diogelwch domestig.

Eiddo sy’n cael eu defnyddio i ddibenion trafnidiaeth ac eiddo eraill lle mae angen lefel uchel o olau am resymau diogelwch.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • meysydd awyr
  • harbwrau
  • eiddo rheilffordd
  • eiddo tramffyrdd
  • carchardai
  • gorsafoedd bws a chyfleusterau cysylltiedig
  • canolfannau cerbydau gwasanaethau cyhoeddus
  • canolfannau cerbydau cludo nwyddau
  • goleudai
  • adeiladau sy’n cael eu defnyddio i bwrpas amddiffyn

Mae’r un trefniadau yn berthnasol i niwsans statudol a achosir oherwydd golau artiffisial ag unrhyw niwsans statudol arall. 

Fel y gellir ymchwilio i gŵyn, gofynnir i’r achwynydd wneud cwyn ysgrifenedig a bydd raid iddo/iddi roi ei e/henw a’i g/chyfeiriad ynghyd â’r lleoliad/cyfeiriad sy’n achosi’r broblem.  Fel arfer, ni chynhelir ymchwiliad i gŵyn dienw a hynny oherwydd gofynion cyfreithiol Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol  2000.

Yn y lle cyntaf, gobeithir y byddai cymryd camau syml fel ail-anelu’r goleuadau neu eu sgrinio yn ddigonol mewn nifer o achosion er mwyn gwneud i ffwrdd â’r angen i gymryd camau gorfodaeth.  Fodd bynnag, petai angen mynd â mater ymhellach, rhaid gwneud asesiad a phenderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch a yw ffynhonnell golau artiffisial yn cyfateb i niwsans statudol ai peidio cyn y gellir cymryd unrhyw gamau.

Am ychwaneg o wybodaeth ar y mater hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Adain Iechyd yr Amgylchedd.