Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Coelcerthi



Er y gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o wastraff tŷ drwy gynlluniau casglu gwastraff y Cyngor, o bryd i’w gilydd, gwneud coelcerth yw’r ffordd ymarferol orau o gael gwared ar wastraff gardd sych neu sbwriel arall na ellir eu compostio. Bydd coelcerthi hefyd yn draddodiadol yn cael eu defnyddio i ddathlu digwyddiadau traddodiadol fel Noson Tân Gwyllt ar 5 Tachwedd.

Gall cymdogion gael eu digio’n hawdd os bydd mwg o Goelcerth yn atal iddynt fwynhau eu gerddi, rhoi eu dillad ar y lein neu agor ffenestri ac mae yna yn aml gamddealltwriaeth ynglŷn â phryd a lle y gellir cynnau coelcerth gardd.

Y gyfraith

Nid oes unrhyw is-ddeddfau mewn grym sy’n rhwystro coelcerthi gardd nac yn nodi’r amser o’r dydd na’r dydd o’r wythnos pryd y gellir cynnau coelcerth ond nid yw hyn yn dweud y gallwch gynnal coelcerth pryd bynnag yr ydych yn dymuno gwneud hynny. Mae yna gyfreithiau sy’n diogelu pobl rhag cael eu heffeithio gan y mwg a achosir gan goelcerthi.

Os bydd coelcerth yn cael ei chynnau’n rheolaidd, gan achosi llawer o fwg a lludw, neu bod y deunydd sy’n cael ei losgi yn beryglus i iechyd, yna gellir cymryd camau yn eich erbyn dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 fel niwsans statudol. 

Os bydd coelcerth yn cael ei chynnau yn achlysurol, yna ni ddylai achosi unrhyw broblem.

Mwg tywyll o eiddo masnachol

Dylid mynd â gwastraff masnachol neu ddiwydiannol i safle gwaredu gwastraff trwyddedig.  Dan Ddeddf Aer Glân 1993 mae’n drosedd i achosi i fwg tywyll gael ei ollwng o unrhyw eiddo diwydiannol neu fasnachol. 

Gweler y dudalen ar fwg tywyl am fwy o wybodaeth.

Beth i’w wneud os ydych yn cael eich poeni gan fwg

Os yw mwg yn broblem barhaol ac er y byddwch efallai yn teimlo’n annifyr, fe ddylech yn gyntaf fynd at eich cymydog ac egluro’r broblem a dweud sut y mae’n effeithio arnoch chi. Efallai na fyddant yn ymwybodol eu bod yn achosi niwsans.

Cofiwch y gall coelcerthi achosi peryglon tân oherwydd fe all tân ymledu i adeiladau, ffensys, coed a phlanhigion. Fe all caniau wedi’u selio neu boteli ffrwydro. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 101 neu gwelwch y cyswllt i’w gwefan.

Os na fyddwch yn gallu datrys y materion gyda’ch cymdogion, gellir adrodd am broblemau parhaol i’r adain Iechyd Amgylcheddol drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein.