Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ydych chi'n poeni amdanoch chi'ch hun?


Wyt ti’n poeni ar rywbeth?

Wyt ti angen siarad â rhywun?

Gelli gael help mewn nifer o ffyrdd:

  • ffonio’r gweithiwr cymdeithasol ar unrhyw amser ar (01248) 725 888 a dweud wrthynt beth sy’n digwydd
  • neu gallet anfon ebost atynt: teulumon@ynysmon.llyw.cymru
  • mewn argyfwng – pan mae rhywun yn cael ei daro neu’n cael ei gloi allan o’r cartref, ffonio’r heddlu ar 999
  • ffonio Childline ar 0800 1111 neu fynd i wefan Childline

Os nad wyt am siarad â rhywun nad wyt yn ei adnabod, gallet ofyn i oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo neu ynddi, rhywun fel athro neu weithiwr ieuenctid, neu hyd yn oed gofyn i ffrind wneud yr alwad ar dy ran.

Mae’n rhaid i bobl sy’n gweithio gyda phlant ddilyn eu canllawiau ond byddant yn esbonio beth fyddant yn ei wneud a beth ddylent fod yn gallu ei wneud i dy helpu trwy’r broses.

Bwlio a phryderon ar y rhyngrwyd

Os wyt yn cael dy fwlio neu os wyt yn poeni am rywbeth sy’n digwydd neu a allai ddigwydd i ti pan rwyt yn mynd ar y we, mae gwefannau defnyddiol y gelli edrych arnynt. Rydym wedi ei rhestri nhw ar waelod y dudalen yma.

Mae’n anodd siarad am gamdriniaeth – ond os nad wyt yn sôn wrth rywun, ni fyddant yn gallu dy helpu i’w stopio.