Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Stopio cosbi corfforol


21 Mawrth 2022

Roedd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O'r diwrnod hwn ymlaen, mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a'u hawliau, er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.

Beth yw cosb gorfforol?

Mae sawl math o gosb gorfforol, fel:

  • smacio
  • taro
  • slapio
  • ysgwyd

Ond mae mathau eraill hefyd.

Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol. Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.

Beth mae’r newid yn y gyfraith yn ei olygu?

  • Mae cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
  • Mae gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
  • Mae'n gwneud y gyfraith yn gliriach - haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ei deall.

A yw'n berthnasol i bawb yng Nghymru?

Ydy, mae'n berthnasol i bawb - rhieni neu unrhyw un sy'n gyfrifol am blentyn tra bod y rhieni yn absennol.

Ac fel gyda chyfreithiau eraill, mae’n berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.

Ar ôl 21 Mawrth 2022

Beth sy'n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol o 21 Mawrth 2022?

Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol:

  • yn torri’r gyfraith
  • mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
  • efallai yn derbyn cofnod troseddol, fel gyda phob trosedd arall

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, i'w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, i helpu i osgoi sefyllfa o'r fath.

Ydych chi'n poeni am blentyn?

  • Cysylltwch â' ni - mae'r manylion ar y dudalen hon.
  • Gallwch hefyd ffonio'r heddlu mewn argyfwng neu os yw plentyn mewn perygl.

Cyngor a chefnogaeth

  • Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol. Mae gan yr ymgyrch dudalen we ar gyfer cymorth ar rianta sy’n cynnwys dolenni i gymorth a llinellau cymorth pellach i rieni.
  • Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a Teulu Môn
  • Rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Ending physical punishment campaign from Welsh Government