Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gofalwyr ifanc


Plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed yw ‘gofalwyr ifanc’ sy’n helpu i ofalu am rywun adref na all ymdopi heb eu help gan eu bod yn sâl, gydag anabledd, iselder, neu gyda phroblem diod neu gyffuriau.

Mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu Cynllun Gofalwyr Ifanc ar Ynys Môn gyda Action for Children.

Gallwn ddarparu:

  • asesiad o’ch anghenion fel gofalydd ifanc
  • asesiad o anghenion y person sy’n ddibynnol
  • ystod o wasanaethau cefnogol
  • cyfleoedd i gael seibiant oddi wrth ofalu, gan gynnwys trefniadau ar gyfer gweithgareddau hamdden a grwpiau cefnogol
  • cymorth a chefnogaeth ymarferol gyda’ch addysg

Cewch mwy o wybodaeth trwy ffonio un o swyddogion Teulu Môn ar 01248 725 888