Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynnig Gofal Plant Cymru


Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng 1 Ionawr 2019 i 31 Mawrth 2019.

Beth yw'r cynnig?

  • Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgolyn ychwanegol at y 10 awr o Addysg Feithrin sy'n cael ei ddarparu'n barod.
  • Yn ystod hyd at 9 wythnos o wyliau'r ysgol, gall rhieni dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant.
  • Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd yn addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed yn y sir neu’r tu allan, trwy gytuno gyda’r darparwr a’r awdurdod lleol. Nid oes rhaid i’r gofal plant gael ei roi gan yr un darparwr â’r ddarpariaeth Addysg Feithrin.
  • Gall plant sy'n gymwys dderbyn y cynnig; tan y mis Medi yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd, pan fyddant yn cychwyn ar addysg llawn amser.

Mae'ch plentyn yn troi'n 3

Gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig

1 Medi i 31 Rhagfyr

Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr

1 Ionawr i 31 Mawrth

Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill

1 Ebrill i 31 Awst

Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi

Cymhwysedd

I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi gwrdd â’r meini prawf cymhwyster isod:

  • Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed ac yn gallu cael mynediad i Addysg Feithrin ran-amser.
  • Yr ydych yn byw yn Ynys Môn, Gwynedd neu Conwy.
  • Bod pob rhiant, neu gyplau sy'n cyd-fyw ar yr aelwyd yn gweithio ac yn ennill cyflog sy’n cyfateb i 16 awr o leiaf ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol; Neu mewn addysg uwch/addysg bellach. (Ni fydd rhieni'n gymwys os ydynt yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn - trothwy fesul rhiant yw hwn).
  • Bod un rhiant yn gyflogedig/mewn addysg a bod gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu  sylweddol seiliedig ar fudd-daliadau penodol a dderbynnir am ofalu.
  • Bod y ddau riant yn gyflogedig/mewn addysg, ond bod y naill riant a’r llall i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb rhieni, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
  • Bod y ddau riant yn gyflogedig/mewn addysg, ond bod un neu’r ddau riant i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar dâl salwch statudol.
  • Bod un rhiant yn gyflogedig/mewn addysg a bod un rhiant yn anabl neu’n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol (weler tudalen nesaf).

Lle bydd un rhiant yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a'r rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, bydd y plentyn yn dal i allu manteisio ar y cynnig:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gofalwyr
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Budd-dal Analluogrwydd Hirdymor
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Credydau Yswiriant Gwladol ar sail anallu i weithio neu allu cyfyngedig i weithio

Gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:

  • wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd (mae hyn yn cynnwys cyrsiau ddysgu o bell)
  • wedi cofrestru ar gwrs sydd o leiaf 10 wythnos o hyd ac a ddarperir mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB)(mae hyn yn cynnwys cyrsiau ddysgu o bell) 

Polisi ailwirio

Ar ôl i geisiadau gael eu pasio, cysylltir â rhieni bob tymor er mwyn ailgyflwyno prawf incwm. 

Mae tabl hyn yn dangos incwm yn seiliedig ar isafswm cyflog yn gweithio 16 awr yr wythnos. Os yw'ch incwm yn is na'r cyfanswm ar gyfer eich oedran ni fyddwch yn gymwys.
 Oedran

Fesul awr

Wythnosol

Misol

Blynyddol

23+

£9.50

£152

£658.67

£7904

21 i 22

£9.18

£146.88

£636.48

£7637.76

18 i 20

£6.83

£109.28

£473.55

£5682.56

O dan 18

£4.81

£76.96

£333.49

£4001.92

Apprentis

£4.81

£76.96

£333.49

£4001.92

Sut i wneud cais

Bydd angen i bob rhiant a hoffai gael gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Gwnewch gais am y Cynnig Gofal Plant Cymru

Llinell gymorth

Os hoffech siarad â rhywun am eich cais gallwch ffonio’r llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628

Gwarchodwyr plant ym Môn

Am restr o warchodwyr plant ar Ynys Môn, e-bostiwch gofalplantachwaraemon@ynysmon.llwy.cymru