Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun llwybr ar gyfer gadael gofal


Creu Cynllun Llwybr

Cynllun Llwybr - ynddo nodir eich anghenion a’ch dyheadau a’r ffordd orau i chi a’r Cyngor Sir gwrdd â nhw.

Bydd y cynllun yn hyblyg – bydd yn datblygu ac yn addasu wrth i’r misoedd a’r blynyddoedd fynd heibio, wrth i’ch bywyd newid. Mae’n cynnwys y cyfnod rhwng i chi adael gofal a’ch ugeiniau cynnar.

Y syniad yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau, eich bod yn medru cael at y wybodaeth yr ydych ei hangen i wneud penderfyniadau pwysig a derbyn cymorth fel bod modd i chi geisio gwireddu eich gobeithion a’ch uchelgeisiau. Diwedd y gân yw mai eich ei dyfodol chi ydyw.

Dyma ychydig o enghreifftiau o’r math o gymorth ymarferol y gallai eich Cynllun Llwybr ei gynnig i chi;

  • rhent a threuliau bywarian ar gyfer offer chwaraeon neu ddiddordebau
  • ffioedd ar gyfer addysg a hyfforddiant
  • dod o hyd i lety yn ystod y gwyliau (os ydych yn y coleg)
  • gwybodaeth am / paratoi ar gyfer gyrfa a swydd

Mae’r Gwasanaeth Ôl-ofal yn ymrwymiad tymor hir i roi cychwyn cadarn i chi mewn bywyd.

Os ydych yn penderfynu gadael Ynys Môn, bydd eich gweithiwr Ôl-ofal yn cadw mewn cysylltiad ac yn sicrhau eich bod yn derbyn cefnogaeth barhaus gan eich Awdurdod Lleol newydd.

Os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth gallwch siarad â’ch Gweithiwr Cymdeithasol, Gofalwr Maeth neu’r Tîm Ôl-Ofal y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn swyddogol i’r Adran os ydych yn anfodlon gyda’n gwasanaeth.