Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwefru cerbydau trydan


Pwyntiau gwefru

Mae lleoliad pob pwynt gwefru ar Ynys Môn ar gael ar Zapmap (gwefan allanol yn Saesneg).

Edrychwch ar Zapmap neu ar wefan y darparwr i gadarnhau statws diweddaraf y pwyntiau gwefru cyn teithio i’w defnyddio.

Sut mae gwefru cerbydau trydan?

Byddwch angen y cebl plwg-i-blwg a ddaeth gyda’r cerbyd.

Mae’r socedi gwefru sydd ar gael yn ein lleoliadau yn cynnwys socedi math CHADeMo (50kW), CCS (50kW), a Math 2 (22kW).

I ddefnyddio’r seilwaith Swarco gallwch gofrestru i dalu drwy’r ap eSwarco neu mae ar gael o’r siop apiau ar ffonau iOS ac Android.

Fel arall gallwch dalu â cherdyn debyd neu gredyd. Mae gwybodaeth bellach ar sut i ddefnyddio’r pwyntiau gwefru ar gael ar wefan y darparwr neu ar yr ap yr ydych chi’n ei ddefnyddio.

Cost gwefru cerbydau trydan

Mae’r gost yn ddibynnol ar gyflymder y gwefrwr a’r darparwr.  Ar hyn o bryd mae gennym wefrwyr chwim (70kVA) a chyflym (7-22KvA) sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd a’r gost yw 49c/kWh-57p/kWh.  Mae rhestr o’r costau ar gael ar wefan y darparwr, ac ar Zapmap.

Er mwyn annog mwy i ymuno â’r cyngor ar ei daith tuag at sero net ar hyn o bryd nid oes rhaid i ddefnyddwyr dalu am barcio.

Mae Zapmap hefyd yn darparu cyfrifiannell (gwefan allanol yn Saesneg) fel y gallwch gyfrifo faint o amser y bydd hi’n ei gymryd i wefru’ch car gan ddefnyddio gwefrwr araf, cyflym neu chwim yn ogystal â’r gost o wneud hynny. 

Gosod gwefrwr yn eich cartref neu fusnes

Mae gwybodaeth am osodwyr pwyntiau gwefru, arweiniad ar gymhwystra, cynlluniau a ffurflenni cais i ymgeisio am gyllid grant ar gael ar wefan Y Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV)

Cynllun gwefru cerbydau trydan

Mae Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Ynys Môn 2022 – 2030 yn nodi’n cynlluniau uchelgeisiol i arwain y gwaith o gwrdd ag anghenion gwefru trigolion yr ynys ac ymwelwyr.

Mae’n elfen hanfodol o’n hymrwymiad i leihau’n ôl troed carbon fel sefydliad a chefnogi’r ynys i ddod yn ynys sero net o dan ein rhaglen newid hinsawdd tuag at sero net, mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.  Mae hefyd yn ymateb i’r cynnydd cyflym yn nifer y  cerbydau trydan sy’n cael eu gwerthu, a’r gwaharddiad ar werthu cerbydau diesel a phetrol newydd erbyn 2030.

Trwy roi’r cynllun gwefru hwn ar waith ni fydd un o’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i weithredu mewn ymateb i, a glynu at, Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cymru.

Trwy wneud hyn, ein nod yw rhoi hyder i drigolion ac ymwelwyr i symud i ffwrdd o gerbydau petrol a diesel, lleihau allyriadau pibellau mwg a gwella ansawdd aer ac iechyd ledled yr ynys.

Cyflawni’r cynllun

Ar ôl llwyddo i sicrhau cyllid  gant, mae gennym gyllid i osod a datblygu pwyntiau gwefru ledled yr ynys.

Rydym eisoes wedi gosod pwyntiau gwefru yn Amlwch, Llangefni, Caergybi a Phorthaethwy; ac rydym yn bwriadu gosod ychwaneg o bwyntiau gwefrau yn y lleoliadau hyn ac mewn lleoliadau eraill o amgylch yr ynys, yn cynnwys y maes parcio a theithio/rhannu ym Mharc Sant Tysilio a Maes Parcio a Rhannu, Llanfairpwll.

Fel rhan o’r rhaglen ehangach, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu rhwydwaith o bwyntiau gwefru ledled Ynys Môn er mwyn galluogi trigolion ac ymwelwyr wefru eu cerbydau ar yr ynys cyn parhau â’u siwrnai.

Mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu ychwaneg o bwyntiau newydd (ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru) ond mae’r gwaith hwn yn ddibynnol ar sicrhau ychwaneg o gyllid allanol.

Beth arall ydym ni’n ei wneud i annog mwy o ddefnydd o gerbydau trydan?

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi datblygu Cynllun Trawsnewid Fflyd er mwyn cymryd camau i ddatgarboneiddio ei fflyd drwy symud i gerbydau trydan. Yn y tymor byr bydd yn canolbwyntio ar brynu cerbydau bach /canolig (2023) ac yn y tymor canolig (2024 ymlaen) bydd yn newid ei gerbydau mwy am gerbydau trydan (neu gerbydau allyriadau isel iawn).

Mae Menter Môn mewn partneriaeth â Medrwn Môn a Cyngor Sir Ynys Môn wedi gosod pum pwynt gwefru mewn hybiau cymunedol ledled yr ynys

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i ddatblygu ychwaneg o safleoedd mewn lleoliadau strategol ledled yr Ynys ac mae datblygiadau pellach yn ddibynnol ar sicrhau cyllid allanol.

Rhestr o’r safleoedd lle cafodd pwyntiau gwefru eu gosod dan arweiniad y cyngor

Safle

Lleoliad

Cod post

Math o wefrwr

Cyflenwr

Socedi ar gael

Maes parcio Noddfa

Amlwch

LL68 9ET

Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)

SWARCO

2

Maes parcio Ffordd Fictoria

Caergybi

LL65 1UD

Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)

SWARCO

2

Maes parcio Iard y Stesion

Llangefni

LL77 7ND

Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)

SWARCO

2

Maes parcio Neuadd y Dref

Llangefni

LL77 7LR

Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)

SWARCO

2

Maes parcio’r Llyfrgell

Porthaethwy

LL59 5AS

Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)

SWARCO

2

Unedau busnes Pen yr Orsedd

Parc Bryn Cefni

LL7JA

Araf (7kW)

BP Chargemaster

6

Canolfan Fusnes Ynys Môn

Cyngor Sir Ynys Môn

LL77 7XA

Araf (7kW)

BP Chargemaster

8

Unedau 17a-26a

Ystâd Ddiwydiannol Penrhos

LL65 2FD

Araf (7kW)

BP Chargemaster

6

Unedau 1A i 6A

Parc Diwydiannol Tregarnedd

LL77 7JD

Araf (7kW)

BP Chargemaster

4