Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol a Caeth i'w Tai


Mae’r llyfrgell deithiol yn ymweld â chymunedau sydd dros dri chwarter milltir o un o lyfrgelloedd Môn.

Ffoniwch Llyfrgell Llangefni ar 01248 752 093 os ydych yn dymuno derbyn mwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn.

Ymunwch â'r llyfrgell

Mae’r fan llyfrgell arbennig yn ymweld â thua 110 o leoliadau ar hyd a lled yr ynys yn rheolaidd. Mae’r llyfrgell deithiol yn cario casgliad bychan ond cynhwysfawr o lyfrau a thapiau ac yn darparu mynediad at weddill y gwasanaeth llyfrgell.

Gellir benthyg hyd at 20 o eitemau, am fis. Adnewyddir yr eitemau’n awtomatig am fis arall. Os na fyddwch wedi dychwelyd yr eitem(au) ar ôl deufis, bydd rhaid talu dirwy fechan.

Cofiwch, os byddwch yn methu’r llyfrgell deithiol ac yn methu dychwelyd eich llyfrau, gellir eu hadnewyddu dros y ffôn, drwy ffacs, yn ysgrifenedig, ar y we neu drwy alw i mewn i unrhyw un o’r llyfrgelloedd.

Os nad ydych wedi ymuno â’r llyfrgell eto, bydd croeso i chi ymuno ar y llyfrgell deithiol. Mae’n hawdd ymuno ac mae’n ddi-dâl. 

 

Mae’r llyfrgell deithiol yn ymweld â’ch cymuned o leiaf 10 waith y flwyddyn, ac yn aros am gyfnod o o leiaf 10 munud.

Os nad yw’n bosib i chwi ymweld â’r llyfgell deithiol oherwydd damwain, salwch neu anabledd, efallai byddai diddordeb gennych yn ein gwasanaeth caeth i’w tai. 

Mae’r gwasanaeth caeth i’w tai ar gael i unrhyw un ar Ynys Môn sy’ n cael anhawster defnyddio’u llyfrgell leol neu’r llyfrgell deithiol.

Gall anawsterau  wrth ddefnyddio’r llyfrgell fod o natur barhaol neu dros dro. Gallwch chi (neu’r person yr ydych yn gofalu amdano) fethu:

  • gadael y cartref neu fan preswylio arall
  • teithio i’r llyfrgell
  • cael mynediad hawdd i’r llyfrgell 
  • cario deunyddiau i’r llyfrgell ac oddi yno

Y bobl ganlynol sy’n fwyaf tebygol o brofi rhai neu’r cyfan o’r anawsterau hyn:

  • henoed bregus neu ddryslyd
  • pobl ag anabledd corfforol
  • pobl ag anabledd synhwyrol, yn arbennig nam difrifol ar y golwg
  • pobl ag anfantais meddyliol dwys neu ddifrifol
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl penodol, fel agoraffobia
  • pobl yn dioddef o salwch, neu’n gwella wedi anaf neu lawdriniaeth
  • pobl na all ddefnyddio’r llyfrgell tra’n gofalu am unrhyw un o’r uchod, neu oherwydd cyfrifoldebau gofalu rheolaidd arall
  • plant ifanc yng ngofal unrhyw un o’r uchod

Gallwch gysylltu â’ch llyfrgell leol os ydych am dderbyn y gwasanaeth ar gyfer eich hun neu berson yr ydych yn gofalu amdano. Noder, os gwelwch yn dda, bod rhestr aros weithiau am y gwasanaeth hwn.

Os nad oes arhosfan llyfrgell deithiol yn agos i chi, medwrch wneud cais am arhosfan newydd.

Fel rheol bydd cais a dderbynnir oddi wrth 3 theulu (neu o leiaf 6 unigolyn) am arhosfan newydd yn cael ei gymeradwyo. Gall gymryd amser fodd bynnag i ail amserlenni’r teithiau.

Ceir manylion y teithiau a’r amseroedd cyfredol drwy ffonio 01248 752 093.