Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Pecynnau ffitrwydd ac aelodaeth


  • £320 (blynyddol)
  • dim cyfyngiad ar ddefnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, cyrtiau sboncen
  • £260 (blynyddol)
  • dim cyfyngiad ar ddefnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd a’r pyllau nofio
  • sesiwn gynefino am ddim yn y gampfa
  • £220 (blynyddol)
  • dim cyfyngiad ar ddefnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chyrtiau sboncen o amser agor y ganolfan hyd at 3.30 yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener a thrwy’r penwythnos
  • cewch sesiwn gynefino am ddim yn y gampfa hefyd
  • £180 y flwyddyn

Bydd pecyn ffitrwydd corfforaethol Môn Actif yn caniatáu i weithwyr ddefnyddio unrhyw gyfleusterau hamdden ar yr Ynys sy’n cael eu rheoli gan Môn Actif, mae'r rhain wedi eu lleoli yn: Amlwch, Caergybi, Llangefni a Porthaethwy.

Wrth ymuno, byddwch yn mwynhau’r buddion o defnyddio’r pwll nofio, ystafell ffitrwydd a dosbarthiadau ffitrwydd am £26 y mis.

Mae rhestr lawn o’r holl weithgareddau ac amseroedd agor ar ein gwefan - gweler y linciau i wybodaeth y canolfannau hamdden Ynys Môn, neu ewch i dudalennau Môn Actif ar Facebook, Twitter and Instagram am fwy o wybodaeth.

  • gostyngiad o dros 10% ar eich aelodaeth
  • dosbarthiadau ffitrwydd
  • nofio heb gyfyngiad
  • cerdyn aelodaeth blynyddol
  • defnydd o'r cyrtiau sboncen
  • defnydd o'r holl ystafellaoedd ffitrwydd
  • defnydd o'r 4 canolfan hamdden
  • hyd at 25% o ostyngiad ar weithgareddau
  • mynediad i'r system archebu ar-lein

Mae busnesau gyda 5 aelod o staff neu fwy yn gymwys ar gyfer y pecyn yma. Telerau ac amodau llawn yn berthnasol.

I wneud cais am unrhyw un o’r opsiynau aelodaeth uchod, ewch i’ch canolfan hamdden os gwelwch yn dda.

Wrth gofrestru ar gyfer unrhyw gynllun Debyd Uniongyrchol, rydych yn ymrwymo i’r cynllun am gyfnod cychwynnol o 3 thaliad misol yn olynol.

Ar ôl hynny bydd eich taliadau debyd uniongyrchol yn parhau’n ddi-dor hyd nes y byddwch yn canslo taliadau gyda’ch banc/cymdeithas adeiladu.