Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Nofio yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur


Mae gan Plas Arthur bwll nofio mawr 25m a phwll bach i’r babanod.

Gall amseroedd nofio fod yn ddarostyngedig i newidiadau munud olaf.Cysylltwch â’r dderbynfa am yr oriau cyfredol os gwelwch yn dda.

Amserlen

Amserlen nofio Plas Arthur 8 Ebrill i 26 Mai
Dydd Llun Nofio lôn 8am - 9am
Nofio lôn (pwll bach ar gael) 12pm - 1pm
Nofio cyhoeddus 7pm - 8pm
Dydd Mawrth Nofio lôn 7am - 8am
Nofio lôn 12pm - 1pm
Nofio cyhoeddus 7pm - 8pm
Dydd Mercher Nofio lôn 8am - 9am
Nofio lôn 12pm - 1pm
Nofio cyhoeddus 7pm - 8pm
Nofio cyhoeddus 8pm - 9pm
Dydd Iau Nofio lôn 7:30am - 8:30am
Nofio lôn 12pm - 1pm
Nofio cyhoeddus 7pm - 8pm
Dydd Gwener Nofio lôn 8am - 9am
Nofio cyhoeddus 12pm - 1pm
Dydd Sadwrn Nofio cyhoeddus 11am - 12pm
Nofio cyhoeddus 1pm - 2pm
Nofio Insport 2pm - 3pm
Dydd Sul Nofio cyhoeddus 10:30am - 12pm
Nofio cyhoeddus 12pm - 1pm
Gŵyl Banc
6 Mai 2024
Nofio cyhoeddus 2pm - 3pm
Nofio am ddim i aelodau dros 60 oed
Dydd Mawrth Nofio am ddim i aelodau dros 60 oed 12pm - 1pm
Dydd Iau Nofio am ddim i aelodau dros 60 oed 7:30am - 8:30am

Cyfleusterau

Mae aelodau a di-aelodau yn cael mynediad i sesiynau nofio cyhoeddus.

Nid oes cyfyngiadau oedran ir sesiwn yma.

Mae’r prif bwll a pwll bach ar gael oni bai fod wedi nodi yn wahanol. Mae mynediad ir pwll cyfan gyda dim cyfyngiadau symud rhwng y pyllau.

Rydym yn annog cwsmeriaid i nofio lled y pwll yn hytrach na hyd y pwll.

Pwll bach

Mae aelodau a di-aelodau yn cael mynediad i sesiynau nofio cyhoeddus, pwll bach.

Nid oes cyfyngiadau oedran ir sesiwn yma.

Nid oes mynediad ir pwll mawr yn ystod y sesiwn yma.

Mae aelodau a di-aelodau yn cael mynediad i sesiynau nofio lôn.

Mae rhaffau wedi eu gosod yn y pwll er mwyn gadael i gwsmeriaid nofio ar gyflymder ei hunain sef cyflym, canolig ac araf. Mae modd i chi ddewis eich lôn mwyaf cyfforddus.

Mae plant a phobl ifanc 8 oed a drosodd yn cael mynychu y sesiynau yma ar hyn o bryd.

Archebu eich sesiwn nofio

Rhaid llogi eich lle ar-lein.

Archebu sesiwn nofio

Manteision nofio

Mae 30 munud o nofio yn cyfateb i 45 munud o weithgaredd ar y tir.

Gall 30 munud o nofio cymedrol losgi 200 i 300 o galorïau.

Pam dylen ni nofio

  • Cryfhau eich calon a’ch ysgyfaint.
  • Gwella eich ffitrwydd erobig.
  • Gwella eich cryfder a’ch ystwythder.
  • Siapio eich corff cyfan.
  • Llosgi calorïau i helpu gyda rheoli pwysau.
  • Ymarfer effaith isel sy’n llai o straen ar eich cyhyrau a’ch cymalau.
  • Yn addas i bob oed a gallu.
  • Lleddfu straen.
  • Gwneud i chi deimlo’n well.
  • Mae’n hwyl.

Mae nofio yn ymarfer effaith isel gwych.

Gellwch nofio’n hamddenol wrth eich pwysau neu mor galed ac mor gyflym ag y dymunwch.