Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl Cymunedol


Mae Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl, Cyngor Môn yn cynnig cefnogaeth yn y gymuned i bobl yn byw ar Ynys Môn sy’n cael eu cyfeirio atom ni naill ai gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Tîm Cefnogi Pobl Ynys Môn, meddygfeydd Meddygon Teulu neu Ymwelwyr Iechyd.

Pwy all ymuno?

Gallwch ymuno gydag unrhyw un o’n gweithgareddau (cyn gymaint ac yr hoffwch a dweud y gwir) cyn belled a’ch bod wedi cael eich cyfeirio atom nail ai gan eich meddyg, ymwelydd iechyd, y tîm Cefnogi Pobol neu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth yn y gymuned ar gyfer ein cleientiaid yn ogystal ag ystod eang o weithgareddau grŵp a ddyluniwyd i helpu i wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol a llesiant. Byddwn yn gofyn i chi arfarnu eich cynnydd o safbwynt eich llesiant wrth i chi gymryd rhan yn y gweithgareddau er mwyn gweld a yw’r hyn yr ydych yn ei wneud yn eich helpu i wella eich iechyd a’ch llesiant.

Gellir gwneud trefniadau i’ch cludo o wahanol leoliadau er mwyn eich helpu i gyrraedd y cyfarfod os oes angen. Gallwch drafod hyn yn ystod ein cyfarfod cyntaf gyda chi.

Bydd staff ar gael bob amser fydd yn ymuno yn y gweithgareddau bob dydd.

Mae croeso i gymaint â phosib o’n cleientiaid ymuno â ni.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu eich bod yn dymuno cymeryd rhan yn unrhyw un o’n gweithgareddau, a wnewch chi gysylltu gyda’n tîm gweithgareddau ar 0300 853 155.

Byddwch yn ymwybodol y gall y gweithgareddau newid neu cael eu canslo, a hynny weithiau ar fyr rybydd, ac felly gofynnwn i chwi gadw llygaid ar y rhaglen yn gyson.