Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Mynediad at feddyginiaethau i ofalwyr


Mae’n bwysig iawn cefnogi gofalwyr sydd angen meddyginiaeth yn ystod y pandemig presennol. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru, Gofalwyr Cymru, Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain a Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi bod yn cydweithio i ddeall y pwysau sy’n wynebu gofalwyr yn ystod yr amser hwn ac i gynnig ffyrdd y gellir eu cefnogi. 

Rydyn ni wedi clywed mai’r problemau allweddol sy’n wynebu gofalwyr di-dâl wrth gael gafael ar feddyginiaethau ar hyn o bryd ydy:

  • Ymdopi â chiwiau hir yn y fferyllfa o ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol
  • Cael gafael ar slotiau danfon meddyginiaethau a threfnu’r rhain
  • Gofalwyr ifanc yn cael gwrthod mynediad i fferyllfeydd 

Fe hoffem ni felly alw ar dimau fferyllol i gefnogi gofalwyr trwy  

Roi cefnogaeth a gwybodaeth i gynorthwyo gofalwyr di-dâl yn y siop

  • Caniatáu i 2 o bobl fod yn y siop pan nad oes gan y gofalwyr unrhyw ddewis ond mynd â’r person y mae’n gofalu amdano/amdani gyda nhw i mewn i’r fferyllfa
  • Addasu pethau fel bo angen i gefnogi’r gofalwr a’r person y mae’n gofalu amdano/ amdani
  • Ystyried blaenoriaethu gofalwyr di-dâl pobl agored i niwed / sy’n cael eu gwarchod i gael slotiau danfon meddyginiaethau
  • Adolygu canllawiau ar ‘Blant yn casglu meddyginiaethau o fferyllfa’ a chydnabod mai, i rai teuluoedd, gofalwyr ifanc ydy’r unig bobl ar yr aelwyd sy’n gallu casglu meddyginiaethau 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda

Un Pwynt Cyswll - 01248750057 ASDUTY@ynysmon.llyw.cymru

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr – 01248370797 help@carersoutreach.org.uk

Gweithredu dros blant - 07809595221 ynysmonyoungcarers@actionforchildren.org.uk