Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Panel a Phwyllgor ar y Cyd


Cytunodd Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Mon ar 15 Mehefin 2010 i sefydlu trefniadau i weithio ar y cyd i ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y cyd ar gyfer y ddau Awdurdod Cynllunio lleol. Cytunwyd bod:

  • Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cael ei sefydlu i ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar gyfer y ddau Awdurdod.
  • yr Uned yn dechrau gweithio ar un Cynllun Datblygu Lleol sengl ar gyfer y ddau Awdurdod.
  • Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cael ei ffurfio fel corff trawsffiniol, ffurfiol, ar gyfer cymryd penderfyniadau.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys 7 o Gynghorwyr o’r ddwy Sir.

Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

Mae Panel y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cwrdd yn fisol i ystyried dogfennau drafft, tystiolaeth sy’n cael ei ddatblygu, trafod datblygiad polisiau, ac ystyried barn rhanddeiliad a gaiff eu cyflwyno yn ystod cyfnodau cyfranogiad ac ymgynghori cyhoeddus. Nid yw’n cymryd penderfyniadau ar gynnwys y Cynllun.