Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd - dogfennau cefndirol


Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i’r CDLl ar y Cyd gael ei archwilio yn annibynnol er mwyn sefydlu os yw’n ‘gadarn’ a’i pheidio. Yn unol â hyn, mae’n rhaid sicrhau fod y Cynllun wedi ei seilio ar sylfaen dystiolaeth gref a chredadwy a’i fod yn ystyried polisïau, cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’r papurau testun yn darparu gwybodaeth gefndirol sy’n ffurfio rhan o’r sail dystiolaeth ar gyfer pynciau testun penodol sydd angen derbyn ystyriaeth o fewn y CDLl ar y Cyd. Mae’r papurau testun hefyd yn darparu gwybodaeth o ran y polisïau, cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd yn berthnasol mewn perthynas â’r pynciau testun penodol hynny.

Mae’n bwysig sicrhau fod y papurau testun yn darparu gwybodaeth sydd mor gyfredol â phosib. Er nad yw’n ddyletswydd statudol i ymgynghori ar y dogfennau, mae’r Cynghorau yn croesawu unrhyw sylw neu wybodaeth berthnasol a fyddai’n diweddaru cynnwys y papurau.

Mae restr o’r papurau testun sydd yn cael isod.

Mae’r astudiaethau canlynol ar gael ar CD neu e-bost yn Saesneg yn unig ar gais. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach: 

  • Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy
  • Astudiaeth Tir Cyflogaeth
  • Astudiaeth manwerthu Gwynedd a Môn
  • Adolygiad o Ardaloedd Tirwedd arbennig Gwynedd a Môn
  • Strategaeth Tirwedd Gwynedd (Diweddariad 2012)
  • Strategaeth Tirwedd Ynys Môn (Diweddariad 2010)
  • Astudiaeth Capasisti Ynni Adnewyddadwy Gwynedd
  • Astudiaeth Capasisti Ynni Adnewyddadwy Ynys Môn 
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.