Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rheolau cynllunio ychwanegol yn ardaloedd cadwraeth


Y mae rheolau cynllunio ychwanegol yn yr Ardaloedd Cadwraeth. Bwriad y rheolau hyn yw sicrhau y bydd unrhyw newid fydd yn digwydd yn yr Ardal Gadwraeth yn addas ac yn llesol i’r amgylchedd o gwmpas.

Rheolau Cynllunio

  • efallai y bydd angen caniatâd cynllunio os byddwch yn newid terfynau eiddo sydd yn yr ardal gadwraeth
  • efallai y byddwch angen caniatâd ardal gadwraeth ar gyfer dymchwel neu altro bydd yn effeithio ar gymeriad
  • efallai y bydd angen caniatâd i wneud gwaith tocio a thorri coed

Fe geir rhai ardaloedd cadwraeth y barnwyd eu bod mor bwysig fel eu bod yn destun rheolau cynllunio ychwanegol. Gelwir hyn yn Gyfeiriad Erthygl 4(2). Ar Ynys Môn fe geir un ardal gadwraeth gyda Chyfeiriad Erthygl 4(2) yn nhref Biwmares.

Golyga hyn y bydd angen caniatâd cynllunio i unrhyw ddatblygiadau newydd neu newidiadau yn yr ardal.

Y gwaith sy’n cael ei gynnwys yma yw:

  • ymestyn y tŷ
  • adeiladu strwythurau neu osod wynebau caled o fewn ei gwrtil
  • newid defnyddiau adeiladu megis fframiau allanol, drysau a rendr
  • unrhyw waith altro arall i ffenestri a drysau allanol
  • unrhyw waith altro i’r to yn cynnwys ffenestri yn y to
  • codi, altro neu symud ymaith simnai ar y tŷ
  • gosod erial lloeren
  • codi, dymchwel neu wneud newidiadau i giât, ffens, wal neu le amgaeëdig o fewn ei gwrtil

Datblygiadau newydd

Dylai datblygiadau newydd 'ddiogelu neu wella' cymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth bresennol a bod yn gydnaws â rhinweddau pensaernïol ac esthetig arbennig yr ardal, yn enwedig o ran maint, dyluniad, deunyddiau a gofod rhwng adeiladau.

Dylid ystyried y pwyntiau a ganlyn:

  • lleoliad a mas.
  • y math o ddatblygiad
  • siâp y to ac offer yn ymwneud â dŵr glaw
  • ffenestri, drysau a phortsys.
  • deunyddiau adeiladu.
  • ffryntiau siop ac arwyddion.

Dylai datblygiad newydd ffitio i mewn i’r stryd neu i’r ardal trwy ategu’r cymeriad sy’n bodoli. 

Cysylltwch â ni os oes angen help arnoch i ddewis y deunyddiau cywir, ffoniwch: 01248 750057.