Ein amcan yw darparu gwasanaeth diduedd, proffesiynol a chyfrinachol ar gyfer trigolion Ynys Môn ar faterion defnyddwyr. Darperir gwasanaeth cynghori llinell gyntaf ar gyfer defnyddwyr gan Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Dydd Llun - Dydd Gwener 9am - 5pm) neu trwy fynd i www.adviceguide.org.uk
Pryd y medrwn eich helpu
- byddwn yn cyfeirio’r rheini sy’n gofyn am gyngor ar faterion defnyddwyr i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
- byddwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth am hawliau defnyddwyr dros y ffôn, ar bapur ac wyneb yn wyneb
- byddwn yn ymweld â defnyddwyr yn eu cartref pan fo’n briodol
- byddwn yn trafod setliad mewn achosion rhwng defnyddwyry nodwyd eu bod yn fregus a gwerthwyr yn ddiduedd a theg
- byddwn yn canfod unrhyw fasnachu annheg neu anghyfreithlon a throsglwyddo’r cyfryw waith i’r adain orfodaeth ei archwilio
- byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid a busnesau am eu hawliau a’u hymrwymiadau dan gyfraith sifil defnyddwyr
Pryd na fedrwn eich helpu
- ni allwn ond cynghori a chynorthwyo defnyddwyr mewn anghydfodau sifil os yw’r unigolyn/unigolion wedi ei/eu nodi fel pobl fregus.
- gallwn eich cynghori a’ch cynorthwyo i baratoi hawliad ond ni allwn gymryd yr achos llys ar ran person
- Ni allwn ymyrryd na thrafod setliad mewn anghydfodau rhwng masnachwyr ond gallwn gyfeirio masnachwyr sy’n dymuno cael cyngor ar faterion defnyddwyr i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
- nid ydym mewn sefyllfa i roi barn ar arferion masnachu cwmni penodol onid yw’r wybodaeth honno eisoes yn gyhoeddus
Safonau ein gwasanaeth
- byddwn yn ymateb i’r holl gwynion ysgrifenedig cyn pen 3 diwrnod gwaith
- byddwn yn delio terfynol gydag o leiaf 75% o gwynion cyn pen 3 fis
- byddwn yn ymateb i’r holl gwynion ar gyfryngau cymdeithasol cyn pen 1 diwrnod gwaith.
- byddwn yn rhoi gwybod i achwynwyr am faterion heb eu setlo bob 21 diwrnod
Sut i gysylltu â ni
Gellir cysylltu â ni drwy ffôn, ffurflen arlein, mewn llythyr neu yn bersonol.