Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE


Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE Ynys Môn 2023

Yr haf hwn rydym yn gwahodd ffotograffwyr brwd i dynnu llun o’u hoff le ar arfordir Ynys Môn. Y dyddiad cau yw Dydd Llun 7 Awst 2023.

Bydd y pedwar llun buddugol yn cael eu dewis gan y ffotograffydd clodwiw, Hanna Baguley, a byddant yn ymddangos yng Nghalendr Tirweddau Gwarchodedig Cymru 2024.

Bydd yr enillwyr yn cael copi o’r calendr a fydd yn cynnwys eu llun yn ogystal â bag rhodd AHNE. Bydd y prif enillydd yn cael cyfle i fynychu digwyddiadau Padlo Caiac y tîm AHNE gyda diolch i Angelsey Adventures a bydd eu llun yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc y Morglawdd, Caergybi.

Fe’ch gwahoddir i gyflwyno un llun sy’n cyfleu arfordir Ynys Môn orau yn eich barn chi. Rhaid i’r llun fod â 4 megapicsel o leiaf a rhaid iddo fod ar ffurf tirlun (ar draws). Y dyddiad cau yw 12pm 7 Awst 2023. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar dudalen facebook a chyfryngau cymdeithasol y tîm AHNE, Ddydd Gwener 18 Awst am 5pm.

Am ragor o wybodaeth ac i ddarllen rheolau’r gystadleuaeth, cyfeiriwch at y telerau ac amodau i ymgeiswyr ynghlwm. 

Anfonwch eich lluniau i AHNE@ynysmon.gov.uk

  1. Mae’r gystadleuaeth hon yn rhad ac am ddim.
  2. Caniateir i bob cystadleuydd gyflwyno hyd at dri llun.
  3. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i gadw at y telerau ac amodau hyn.
  4. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sydd heb eu derbyn am ba bynnag reswm.
  5. Rheolau’r gystadleuaeth a sut i ymgeisio:
    • Rhaid i’r llun ddangos AHNE Ynys Môn ar ei gorau.
    • Ni chaniateir lluniau o anifeiliaid anwes, planhigion gardd a bywyd gwyllt mewn caethiwed.
    • Anfonwch eich lluniau i aonb@ynysmon.gov.uk, a chofiwch gynnwys eich enw a nodi ble tynnwyd y llun.
  6. Mae hyrwyddwr y gystadleuaeth yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn heb rybudd. Bydd y cystadleuwyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosib.
  7. Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ymgeisio
  8. Y dyddiad cau yw 12pm Dydd Llun 7 Awst. Ni fydd unrhyw geisiadau’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.
  9. Oherwydd dyluniad y calendr rhaid i luniau fod ar ffurf tirlun (ar draws).
  10. At ddibenion ansawdd, rhaid i luniau fod â 4 megapicsel o leiaf.
  11. Mae’r gwobrau fel a ganlyn:
    • Bydd y 4 llun buddugol yn ymddangos yng Nghalendr Tirweddau Gwarchodedig Cymru 2024, a bydd pob enillydd yn cael copi o’r Calendr yn rhad ac am ddim.
    • Bydd prif enillydd y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynychu digwyddiad AHNE (e.e. Chwilota am Ffwng, Padlo Caiac, Taith Natur).
  12. Mae’r gwobrau fel y nodir uchod ac ni fydd arian parod na gwobrau eraill yn cael eu cynnig. Does dim modd trosglwyddo’r gwobrau.
  13. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan y ffotograffydd clodwiw, Hanna Baguley.
  14. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar dudalen facebook a chyfryngau cymdeithasol y tîm AHNE, Ddydd Gwener 18 Awst am 5pm. Os na fydd modd cysylltu ag enillydd neu os na fyddant yn hawlio’r wobr cyn pen 14 diwrnod, rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl a dewis enillydd arall yn eu lle.
  15. Mae’r enillwyr yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eu henw a’u delwedd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’r lluniau buddugol. Bydd unrhyw ddata personol cysylltiedig â’r enillwyr neu unrhyw un arall sy’n cystadlu yn cael ei ddefnyddio yn gwbl unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd blaenorol y sawl sydd wedi cystadlu.
  16. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a manylion cyswllt a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth yn unig.
  17. Ni chaniateir i aelodau Tîm Cyrchfan Cyngor Sir Ynys Môn gymryd rhan yn y gystadleuaeth.