Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Grant Hanfodion Ysgol (Grant Datblygu Disgyblion yn flaenorol)


Ynglŷn a'r grant

Fe all teuluoedd sy’n bodloni’r meini prawf hyn wneud cais am grant o:

  • £125 ar gyfer pob disgybl
  • £200 ar gyfer pob disgybl sy’n mynd i flwyddyn 7 (i helpu efo costau’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd) 

Pwrpas y grant yw darparu cymorth grant i deuluoedd ar incwm is fel y gallant brynu:

  • gwisg ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau
  • dillad ymarfer corff yn cynnwys esgidiau
  • gliniaduron a thabledi YN UNIG (Dylid defnyddio’r grant Hanfodion Ysgol dim ond os na all yr ysgol fenthyg offer i’r teulu)
  • gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
    • sgowtiaid
    • geidiaid
    • cadetiaid
    • crefft ymladd
    • celfyddydau perfformio
    • dawns
  • offer, fel bagiau ysgol ac offer ysgrifennu
  • offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau cwricwlwm newydd megis dylunio a thechnoleg
  • offer ar gyfer tripiau ysgol megis dysgu yn yr awyr agored, fel dillad glaw

Cymhwysedd

Rhaid i chi fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  • Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm yr ydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau

Mae pob blwyddyn ysgol orfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn gymwys erbyn hyn.

Mae pob plentyn sydd mewn gofal yn gymwys, p’un ai a ydynt yn derbyn cinio ysgol am ddim ai peidio. 

Nid yw disgyblion sy’n derbyn cinio ysgol am ddim oherwydd trefniadau gwarchod dros dro yn gymwys.

Caniateir i deuluoedd hawlio’r grant unwaith yn unig ar gyfer pob plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol.

Gwneud cais

Mae cynllun 2023 i 2024 bellach ar agor ac yn cau mis 31 Mai 2024.