Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth casglu gwastraff bwyd


Mae eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu yn wythnosol, yr un diwrnod a’ch bin a’ch troli ailgylchu.

Dylai eich Pecyn Gwastraff Bwyd gynnwys yr eitemau canlynol:

  • bin bach gwastraff bwyd
  • cadi cegin
  • bagiau compostadwy

Leiniwch eich cadi cegin gyda’r bagiau compostadwy a chadwch y cadi mewn lle cyfleus i gasglu eich gwastraff bwyd.

Gwagiwch y gwastraff i’r bin bach gwastraff bwyd gan glymu’r bag compostadwy.

Rhowch eich bin bach gwastraff bwyd y tu allan i’ch tŷ yn barod i’w gasglu erbyn 7yb ar ddiwrnod eich casgliad.

  • ffrwythau a llysiau amrwd neu wedi’u coginio
  • cig a physgod – amrwd neu wedi’u coginio gan gynnwys esgyrn
  • bara, teisennau a phastai
  • te a choffi
  • reis, pasta a ffa
  • bwyd sy’n weddill ar eich plât ar ddiwedd pryd

Ni allwn dderbyn:

  • hylifau
  • olew neu fraster hylif
  • bagiau plastig (defyddiwch y bagiau compostadwy yn unig)
  • unrhyw deunydd pacio
  • gadael i ni wybod os nad yw eich bin yn cael ei wagio o fewn 24 awr o’r diwrnod casglu
  • rhoi eich bin bach gwastraff bwyd allan cyn 7 o’r gloch y bore ar ddiwrnod eich casgliad
  • rhoi’r eitemau cywir yn y bagiau compostadwy yn y bin bach gwastraff bwyd
  • ceisio lleihau eich gwastraff os yn bosib, fe all arbed o leiaf £420 y flwyddyn i chi
  • golchwch eich bin brown o bryd i’w gilydd

Os ydych chi wedi rhedeg allan o fagiau gwastraff bwyd, clymwch y tag melyn a roddwyd i chwi ar y bin gwastraff bwyd a bydd eich bagiau gwastraff bwyd newydd yn cael eu danfon ar eich diwrnod casglu arferol. Unwaith y byddwch wedi derbyn y bagiau yna tynnwch y tag melyn oddi ar y bin a’i gadw tan y byddwch angen mwy o fagiau. Os nad oes ganddoch dag melyn, yna cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff ar 01248 752860.

Pam ddim trio ein taflen goreuon o ryseitiau blasus o Fôn? Gallwch lawrlwytho isod:

Am ragor o wybodaeth ar leihau gwastraff bwyd a ryseitiau bwyd dros ben, ewch i:

 http://wales.lovefoodhatewaste.com/

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.