Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Casgliadau ailgylchu a gwastraff: awgrymiadau ar gyfer tywydd garw


Er mwyn helpu i atal sbwriel a chadw Ynys Môn yn lân ac yn wyrdd, dilynwch yr awgrymiadau isod pan fydd y tywydd yn gwaethygu:

  • Os yw eich bocsys ailgylchu dim ond yn hanner llawn ac y gallwch ymdopi, ystyriwch aros tan yr wythnos ganlynol pan all y tywydd fod yn well i’w gadael allan.
  • Gwnewch yn siwr bod y caead coch ar y trolibocs wedi cau a bod y bocs top yn ei le. Gall hyn atal i’r deunydd o’r bocs glas rhag chwythu i bob man.
  • Os oes gennych y bocsys unigol, defnyddiwch y caeadau ar gyfer y bocs coch, glas ac oren i atal y deunydd ailgylchu rhag chwythu i bob man. Os nad oes gennych gaead, yna ffoniwch yr Adain Rheoli Gwastraff ar 01248 750057 er mwyn archebu un.
  • Bydd rhoi eich cynhwysyddion allan ar fore’r diwrnod casglu yn lleihau’r effaith gan dywydd gwyntog. Peidiwch â gadael eich cynhwysyddion allan y noson cynt - rhowch nhw allan erbyn 7yb ar fore’r casgliad.
  • Er mwyn atal eich cynhwysyddion rhag chwythu i ffwrdd, ewch â nhw yn ôl i’r tŷ cyn gynted ac y gallwch ar ôl y casgliad.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich holl sbwriel yn ffitio yn y bin du ac y gallwch gau’r caead. Os yw’r caead fymryn yn agored, gall y gwynt ei ddal a chwythu gwastraff i lawr eich lôn / stryd.
  • Rhowch eich sbwriel mewn bag cyn ei roi yn eich bin du. Bydd hyn yn atal gwastraff rhag chwythu i bob man pe bai’r caead yn chwythu’n agored.
  • Gwnewch bopeth y gallwch i atal gwastraff rhag cael ei chwythu gan y gwynt os gwelwch yn dda.

Diolch i chi am ailgylchu ac am helpu i gadw Ynys Môn yn lân ac yn wyrdd.