Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Casgliad gwastraff domestig ar Ynys Môn


Mae gan bob aelwyd sy’n talu Treth Cyngor domestig safonol ym Môn hawl i gael:

  • bin du 240 litr ar olwynion
  • troli bocs ailgylchu
  • cwdyn gwyn ar gyfer ffonau symudol, cetris inc a batris cartref
  • bin brown 23 litr ynghyd â chadi cegin brown 7 litr
  • bin gwyrdd 240 litr ar gyfer gwastraff gardd (tanysgrifwyr yn unig

Pa mor aml mae’r biniau’n cael eu casglu a’u gwagio?

Mae’r bin du ar olwynion yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod bob tair wythnos ac mae’r bin gwyrdd yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod bob pythefnos.

Mae’r trolibocs ailgylchu ynghyd a’r cwdyn gwyn a’r bin bach bwyd brown yn cael eu casglu ar yr un diwrnod pob wythnos.

Er mwyn sicrhau bod eich gwastraff ac ailgylchu yn cael eu casglu, yna rhowch y biniau a’r bocsys allan erbyn 7yb ar eich diwrnod casglu.

Diwrnod casglu biniau
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.