Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Ebrill 2024.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Pwrpas
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn am y cynllun Teithio Llesol arfaethedig (cerdded a beicio) rhwng Pont Marcwis, Malltraeth a Niwbwrch.
Cefndir
Mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) yn ymgynghori ar lwybrau teithio llesol gyda’r nod o wella’r amgylchedd cerdded a beicio i drigolion ac ymwelwyr rhwng Pont Marcwis, Malltraeth a Niwbwrch, ac i wella teithio llesol yn yr ardal a chysylltu’r ddau anheddiad trwy ymestyn y rhwydwaith Lôn Las Cefni.
Mae ymestyn Lôn Las Cefni a gwneud gwelliannau i’r isadeiledd presennol yn cyd-fynd â gweledigaeth Glasffordd Môn i greu coridor gwyrdd di-draffig sy’n elwa cymunedau Niwbwrch a Malltraeth.
Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol.
Dweud eich dweud
Mae cyfle i chi ymuno â ni a rhannu eich barn drwy ein hymgynghoriad wyneb yn wyneb.
Ymgynghori personol
Canolfan Pritchard Jones, Niwbwrch LL61 6SY
10 Ebrill 2024, 3pm i 7pm.
Ffurflen adborth ar-lein
Y dyddiad cau ar gyfer y ffurflen hon fydd 22 Ebrill 2024.
Ffurflen adborth - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Beth sy'n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad
Byddwn yn casglu’r holl ymatebion i’r arolwg.
Defnyddir eich ymatebion i lywio a dylanwadu ar ddyluniad terfynol cynllun Teithio Llesol Pont Marciws i Niwbwrch (trwy Cob Malltraeth).
Gellir trefnu copïau papur o’r arolwg ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at y deunyddiau ymgysylltu ar-lein.
Gwybodaeth bellach
Ffôn: 01248 752 300
E-bost: teithiollesol@ynysmon.llyw.cymru