Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymerwch ran yn Sgriwtini


Mae Pwyllgorau Sgriwtini y Cyngor yn awyddus i gael clywed barn poblogaeth yr Ynys a chael gwybod beth sy’n creu pryder i’r bobl y gwasanaethwn.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi, fel aelod o’r cyhoedd, gymryd rhan yn Sgriwtini:

  • drwy awgrymu pwnc ar gyfer adolygiad
  • drwy fynychu cyfarfodydd fel arsylwyr
  • drwy wneud cais er mwyn siarad ar bwnc penodol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor – gwelir y dudalen ar Protocol Siarad Cyhoeddus Mewn Cyfarfodydd o Bwyllgorau Sgriwtini
  • trwy gymryd rhan mewn ymchwiliadau sgriwtini ar wahoddiad gan Banel Adolygu Sgriwtini
  • trwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig berthnasol i ymchwiliad sgriwtini ar wahoddiad i wneud hynny

Os ydych yn dymuno awgrymu pwnc ar gyfer adolygiad, lawr lwythwch gopi Word neu PDF o’r ffurflen awgrymiadau (gweler y tab Dogfennau i’w lawrlwytho uchod) a’i hanfon yn ôl at y Tîm Sgriwtini drwy’r post:

Sgriwtini, Busnes y Cyngor, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW neu llenwch ein ffurflen ar-lein.

Cysylltu â Sgriwtini

Sgriwtini
Busnes y Cyngor
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW 

E-bost: Sgriwtini@ynysmon.llyw.cymru