Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Pleidleiswyr y lluoedd


Os ydych yn aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi, yn Was y Goron neu’n cael eich cyflogi gan y Cyngor Prydeinig gallwch ofyn i gael eich cynnwys ar y gofrestr drwy ddatganiad neu ar ffurflen gofrestru cartref fel pleidleisiwr yn y lluoedd. Anfonir ffurflenni adnewyddu dri mis cyn y dyddiad adnewyddu.

Os yw pleidleisiwr yn y lluoedd yn cofrestru fel pleidleisiwr ‘cyffredin’ yna mae mewn gwirionedd yn peidio â chael ei gofrestru fel un yn y lluoedd. Rhaid cyflwyno’r datganiad drwy adran berthnasol y llywodraeth neu’r Cyngor Prydeinig.

Gall aelodau o’r lluoedd arfog a’u priod gofrestru

  • drwy ddatganiad y lluoedd (am gyfnod o 36 mis). Rhaid i’r datganiad gael ei dderbyn gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol o fewn tri mis i ddyddiad y datganiad a gall yr unigolyn sy’n gwneud y datganiad ei ddiddymu ar unrhyw adeg
  • yn eu cyfeiriad gartref (yr un ffordd ag etholwyr o sifiliaid - gan ddefnyddio ffurflenni cais unigol neu’r ffurflen ganfasio flynyddol)

Cysylltwch â’r gwasanaeth cofrestru etholiadol i ofyn am ffurflen.

Ffôn: (01248) 752 548 neu llenwch ein ffurflen arlein.

Gwasanaethau Etholiadol
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
LL77 7TW