Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestru i bleidleisio


Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu drwy’r post.

Os ydych wedi cofrestru, nid oes rhaid cofrestru bob blwyddyn er mwyn i’ch enw fod ar y gofrestr.

Pwy sy'n cael cofrestru i bleidleisio

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:

  • preswylio (yn byw fel arfer) yng Nghymru ac yn 14 oed neu drosodd, ond ni fyddwch yn gallu pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol nac yn etholiadau'r Senedd nes eich bod yn 16 oed. Ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu nes eich bod yn 18 oed
  • yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Gymanwlad
  • yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Tramor Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig

Dysgwch fwy am ba etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Sicrhewch fod eich lleoliad wedi'i osod i 'Cymru' ar y dudalen we.

Cofrestru ar-lein

Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol (YG) a’ch dyddiad geni er mwyn cofrestru.

Cofrestrwch ar-lein gyda GOV.UK

Os na allwch ddod o hyd i'ch rhif YG

Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif yswiriant gwladol gallwch ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau CThEM, neu ffoniwch 0300 200 3502.

Os gwnewch gais ar-lein, bydd eich cais yn cael ei anfon at y Gwasanaethau Etholiad yn y cyngor.

Byddant yn anfon llythyr cydnabod atoch pan fyddant wedi ei dderbyn.

Cofrestrwch drwy'r post

Os hoffech ymgeisio drwy’r post, cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol ar 01248 752 548 a byddant yn anfon ffurflen cofrestru etholiadol unigol atoch.

Pan fyddwch wedi cwblhau ac arwyddo’r ffurflen gais dychwelwch hi i:

Gwasanaethau Etholiadol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

Canllaw fideo: Cofrestru i bleidleisio yng Nghymru

Y gofrestr etholiadol

Rydym yn ysgrifennu i bob eiddo yn gofyn i chi gadarnhau a yw’r manylion sydd gennym ar gyfer eich eiddo yn gywir ar y gofrestr etholiadol.