Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Adroddiad Hunanasesu


Mae’r adroddiad hwn yn un sy’n adlewyrchu hunanasesiad cyntaf Cyngor Sir Ynys Môn fel y disgwylir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae’n adlewyrchu allbwn y fframwaith cynllunio a rheoli perfformiad corfforaethol ac yn darparu sail dystiolaethol o ran y modd y mae’r cyngor wedi perfformio. Defnyddir yr adnoddau sydd ar gael iddo wrth reoli a lliniaru risgiau cysylltiedig.

Bwriad y fframwaith perfformiad a llywodraethu cenedlaethol yw cefnogi newid diwylliannol a sefydliadol o fewn llywodraeth leol. Y nod yw adeiladu ar gryfderau presennol a chreu sector mwy arloesol, agored, gonest, tryloyw ac uchelgeisiol, sy’n herio ei hun, a lle mae cynghorau ar y cyd yn mynd ati i wella canlyniadau a safonau mewn perthynas â’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt ledled Cymru.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cydnabod ac yn cadw at ddisgwyliadau o’r fath.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.