Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sut i gwneud cwyn swyddogol


Diffiniad o gwyn

P’un a yw’n ymwneud â’r cyngor ei hun, rhywun sy’n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth, mae cwyn :

  • yn fynegiant o anfoddhad neu bryder
  • ar lafar neu’n ysgrifenedig neu wedi ei wneud drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall
  • wedi ei wneud gan un aelod o’r cyhoedd neu ragor
  • yn ymwneud â’r hyn a wnaed neu’r hyn na wnaed gan y Cyngor
  • yn ymwneud â safon gwasanaeth a ddarperir

Nid yw cwyn:

  • yn gais cychwynnol am wasanaeth, fel dweud nad yw bin wedi ei wagio
  • yn apêl yn erbyn penderfyniad sydd wedi ei wneud yn briodol
  • yn ffordd o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi sydd wedi ei wneud yn briodol
  • yn ffordd o lobïo grwpiau/sefydliadau i geisio hyrwyddo achos

Mae’r Polisi Pryderon a Chwynion yn rhan o Gyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn (rhan 5.7).

Fel arfer bydd modd delio â chwyn yn y fan a’r lle drwy drafod gyda’r sawl sy’n darparu’r gwasanaeth e.e. y swyddog wrth y dderbynfa, staff y ganolfan hamdden, gyrrwr y fan neu’r gweithwyr ffordd. Os oes gennych ymholiad cyffredinol neu sylw am Gyngor Sir Ynys Môn neu am wasanaethau'r Cyngor, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Cwyn swyddogol

Os nad yw hyn yn datrys y broblem, mae gennych hawl i wneud cwyn swyddogol.

Gallwch wneud cwyn swyddogol arlein neu drwy lawrlwytho'r ffurflen gwyno swyddogol a'i hanfon at: Y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol a Chwynion, Yr Adran Gyfreithiol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW.

Gallwch chi hefyd:

Gwasanaethau cymdeithasol 

Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol weithdrefn adrannol statudol.

Adran addysg

Cwynion ynglŷn ag ysgolion

Ni allwn ymateb i gwynion am ysgolion unigol. Mae Deddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu bob ysgol a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr ac aelodau o’r gymuned leol.

Bydd gan yr ysgol bolisi/gweithdrefn gwynion ar gael ar wefan yr ysgol neu drwy gysylltu â’r ysgol.
Yn y lle cyntaf, dylech drafod y cwyn â’r pennaeth, a fydd hefyd yn gallu rhoi mwy o gyngor i chi ynglŷn â threfn gwyno’r ysgol. Mae’n rhaid i unrhyw bolisi cwynion ysgol gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru (Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion: Cylchlythyr 011/2012), sy’n weithdrefn tri cham:

Cam A

Os oes gennych bryder, yn aml gallwch ei ddatrys yn gyflym drwy siarad â'r pennaeth. Dylech ddisgwyl ymateb o fewn 10 diwrnod ysgol ond os nad yw hyn yn bosib, dylai'r ysgol gytuno ar amserlen ddiwygiedig gyda chi. Bydd y person sy'n goruchwylio eich cwyn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddiweddariadau.

DS Os yw'r gŵyn am y pennaeth yna dylid rhoi eich cwyn yn ysgrifenedig at gadeirydd y llywodraethwyr yn uniongyrchol gyda chyfeiriad yr ysgol arni.

Cam B

Os credwch nad yw’ch cwyn gwreiddiol wedi’i datrys, neu fod yr ysgol heb ymdrin â hi’n briodol, dylech wneud eich cwyn yn ysgrifenedig i’r pennaeth.

Cam C

Ni ddylid mynd ymlaen i Gam C dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol, gan y dylai fod modd datrys y rhan helaeth o gwynion yng Ngham B. Fodd bynnag, os ydych chi’n dal o’r farn na ddeliwyd yn deg â’ch cwyn, dylech ysgrifennu at gadeirydd y llywodraethwyr, gan ddefnyddio cyfeiriad yr ysgol, ac esbonio’ch rhesymau dros ofyn i bwyllgor cwynion y corff llywodraethol ystyried eich cwyn. Ni fydd rhaid i chi ysgrifennu holl fanylion eich cwyn eto.

Pwyllgor cwynion y corff llywodraethol sy’n penderfynu’n derfynol ar bob cwyn.

Cwynion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch y weithdrefn hon, os gwelwch yn dda. 

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg yn uniongyrchol at Gomisiynydd y Gymraeg.