Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Isadeiledd


Er mwyn llwyddo, mae angen i ddatblygiadau ynni carbon isel gael isadeiledd modern megis band eang, signal ffôn symudol, tai, cysylltiadau trafnidiaeth a ffyrdd, unedau diwydiannol a gwasanaethau megis cyflenwadau trydan a dŵr ac ati.

Mae’r Rhaglen Ynys Ynni wedi bod yn gweithio’n galed gyda nifer o randdeiliaid yn y sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector er mwyn cefnogi a hyrwyddo’r gwaith o foderneiddio a gwella’r isadeiledd lleol. Drwy wneud hynny bu’n alluogwr hanfodol ar gyfer y datblygiadau ynni carbon isel.