Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Fframwaith Eitfeddiaeth


Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae disgwyl i Ynys Môn fod yn gartref i gyfres o brosiectau mawr, a fydd yn debygol o greu nifer o fuddion positif i Ynys Môn am flynyddoedd lawer ond byddant hefyd yn arwain at rai effeithiau negyddol ar yr ynys.

Er mwyn adlewyrchu ei ymroddiad i arweinyddiaeth gymunedol gyfrifol a rhagweithiol, mae’r Cyngor Sir yn disgwyl i’r holl brosiectau mawr ddod ag ‘etifeddiaeth’ bositif i Ynys Môn gyda’r disgwyl y byddai’r gwaith datblygu, adeiladu a gweithredu’r prosiectau mawr hyn yn cyfrannu at lesiant a dyfodol tymor hir yr Ynys a’i chymunedau.

Mae’r fframwaith etifeddiaeth wedi’i baratoi i amlinellu i ddatblygwyr beth yw dyheadau’r Cyngor Sir ar gyfer pob un o’u prosiectau mawr. Mae’n anelu i ddarparu cynrychiolaeth thematig o sut allai’r Ynys edrych yn 2025, os caiff ein dyheadau hirdymor ni a rhai ein partneriaid, eu gwireddu a’u cyflawni.

Bwriad defnyddio y fframwaith yw i ymgysylltu gyda, a dylanwadu ar ddatblygwyr, i sicrhau eu bod yn cydnabod ac yn plethu’r angen am fuddion etifeddiaeth ystyrlon i mewn i’r gwaith o ddatblygu, adeiladu a gweithredu ein prosiectau.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.