Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Strategaeth Cyfraniadau Budd Cyhoeddus


Mae Ynys Môn ar drothwy cyfnod o drawsnewid economaidd a chymdeithasol na welwyd mo’I debyg erioed o’r blaen a rhagwelir y bydd nifer o ddatblygiadau mawr yn digwydd ar yr Ynys yn y degawd nesaf.

Er mwyn sicrhau bod Ynys Môn a’i thrigolion yn elwa’n llawn o’r cyfleoedd a bod yr heriau’n cael eu lliniaru’n llwyddiannus, mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) wedi datblygu Strategaeth Cyfraniadau Budd Cyhoeddus. Mae CSYM yn ymrwymo i sicrhau Cyfraniadau Budd Cyhoeddus ar gyfer cymunedau a dinasyddion Ynys Môn yn sgil unrhyw ddatblygiadau mawr ar yr ynys.

Nod y strategaeth yw’r sicrhau’r buddion mwyaf posibl yn lleol a lliniaru effeithiau datblygiadau mawr er mwyn cefnogi cynaliadwyedd, ansawdd bywyd a llesiant yr Ynys a’i chymunedau.Er nad oes gan y Cyngor Sir bwerau i orfodi datblygwyr i gyfrannu buddiannau cyhoeddus gwirfoddol, byddwn yn rhagweithiol, cyson a thryloyw yn ein dull o weithio gyda partneriaid sector preifat a cyhoeddus, a chymunedau’r Ynys, i sicrhau buddiannau ystyrlon sy’n ymdrin ag anghenion Ynys Môn.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.