Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Addysg, hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau


Mae amrywiaeth o gyfleoedd am swyddi bellach yn dechrau amlygu eu hunain ar gyfer pobl leol o ganlyniad i ddatblygiadau sy’n gysylltiedig ag Ynys Ynni a disgwylir cyfleoedd gwaith sylweddol dros y blynyddoedd nesaf wrth i nifer o ddatblygiadau symud i’w camau gweithgynhyrchu a chamau gweithredol.

Bydd cael y sgiliau cywir er mwyn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn sy’n codi yn allweddol er mwyn gallu gwneud y gorau o’r manteision sy’n codi o ganlyniad i Ynys Ynni.

Bydd sgiliau gweithgynhyrchu yn hanfodol ar gyfer datblygiadau cysylltiedig ag Ynys Ynni, fel y bydd sgiliau adeiladu seilwaith, peirianneg a rheoli prosiect.

Mae’n debygol y bydd galw uchel am sgiliau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn ystod camau gweithgynhyrchu a gweithredol y prosiectau.

Bydd angen sgiliau eraill hefyd – o benseiri tirlun i weithwyr golchdy, o reolwyr adnoddau i osodwyr lloriau, o bobl arlwyo i bobl addurno – bydd angen pob lefel o sgiliau mewn amrywiaeth eang o swyddi STEM a meysydd eraill.

Yn unigolyn neu’n fusnes, mae’n amser da i ddechrau meddwl am eich sgiliau ac am unrhyw hyfforddiant neu ddatblygiad sgiliau fydd ei angen arnoch er mwyn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd presennol sy’n gysylltiedig ag Ynys Ynni neu’r cyfleoedd a fydd yn codi yn y dyfodol.

Lle i ddechrau chwilio am Addysg, Hyfforddiant, Prentisiaethau a sgiliau – rhai dolenni defnyddiol:

Mae rhai datblygwyr cysylltiedig ag Ynys Ynni hefyd yn cynnig rhaglenni hyfforddiant a/neu gyfleoedd prentisiaeth, dilynwch nhw ar y Cyfryngau Cymdeithasol neu edrychwch ar eu gwefan am fwy o wybodaeth.

Lle i ddechrau chwilio am Addysg, Hyfforddiant, Prentisiaethau a sgiliau – rhai dolenni perthnasol

Mae rhai datblygwyr sy’n gysylltiedig ag Ynys Ynni™- hefyd yn cynnig rhaglenni hyfforddiant ac/neu gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, dilynwch nhw ar y Cyfryngau Cymdeithasol a gweler y map iso am rhagor o wybodaeth.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.