Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwydded bersonol i werthu alcohol


Rhaid i Oruchwylydd Mangre Dynodedig sy’n dal trwydded bersonol awdurdodi pob gwerthiant alcohol o adeilad trwyddedig.

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn a rhaid bod gennych gymhwyster trwyddedu

Cais am drwydded bersonol

Llenwch y ffurflen ar-lein a thalu'r ffi berthnasol os gwelwch yn dda.  

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen ar-lein, cyflwynwch y dogfennau ategol isod i gwblhau eich  cais os gwelwch yn dda.

  • Ffurflen gais wedi'i llenwi.
  • Ffurflen datgeliad GDG (DBS) sylfaenol a gyhoeddwyd heb fod yn gynharach nag un mis calendr cyn i chi gyflwyno'r cais hwn. Mae'r rhestr wirio ar y ffurflen gais yn rhestru dogfennau eraill sy’n dderbyniol.)
  • Cymhwyster trwyddedu perthnasol.
  • Prawf o hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
  • Dau ffotograff (gweler y rhestr wirio ar y ffurflen gais).

Gweler y nodiadau ar y ffurflen gais am ragor o wybodaeth am yr uchod.

Dylid anfon dogfennau ategol i:

Cyngor Sir Ynys Môn, Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, Adain  Drwyddedu, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni LL77 7TW.

Newid enw a / neu gyfeiriad deilydd y drwydded bersonol

Llenwch y ffurflen ar-lein a thalwch y ffi berthnasol os hoffech newid yr enw ar eich trwydded bersonol neu os ydych wedi newid cyfeiriad.  

Noder fod yn rhaid i chi wneud cais i’r Awdurdod gwreiddiol a roddodd y drwydded.  


Bydd hefyd angen i chi lenwi a chyflwyno (uwchlwytho) hysbysiad o newid enw a/neu gyfeiriad deilydd y drwydded bersonol er mwyn gallu cwblhau eich cais.  

Os mae rhywun wedi dwyn neu eich bod wedi colli eich trwydded bersonol    

Llenwch y ffurflen ar-lein a thalwch y ffi berthnasol os hoffech drwydded bersonol newydd.

Noder fod yn rhaid i chi wneud cais i’r Awdurdod gwreiddiol a roddodd y drwydded. 

Bydd hefyd angen i chi lenwi a chyflwyno (uwchlwytho) hysbysiad o fod wedi colli neu rhywun wedi dwyn trwydded bersonol er mwyn gallu cwblhau eich cais.