Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hysbysiad digwyddiad dros dro


Os ydych yn dymuno cynnal digwyddiad sy’n cynnwys ‘gweithgaredd trwyddedadwy’ ar eiddo heb ei drwyddedu, rhaid i chi roi rhybudd digwyddiad dros dro (TEN) i’r awdurdod trwyddedu ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Nid yw dyddiau gwaith yn cynnwys y diwrnod y byddwn yn derbyn eich rhybudd, diwrnod y digwyddiad, penwythnosau na Gwyliau Banc. 

Mae gweithgareddau Trwyddedadwy yn cynnwys:

  • gwerthu a chyflenwi alcohol
  • darparu adloniant megis cerddoriaeth, dawnsio neu ddigwyddiad chwaraeon dan do.
  • darparu bwyd neu ddiod boeth rhwng 11pm a 5pm

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn er mwyn gwneud cais am TEN a gallwch gyflwyno uchafswm o bum TEN y flwyddyn. Os ydych yn ddeilydd trwydded personol, gallwch gyflwyno uchafswm o 50 TEN y flwyddyn. 

Rhaid i’ch digwyddiad gynnwys llai na 499 o bobl ar unrhyw un amser a rhaid iddo bara dim mwy na 168 awr (7 diwrnod) gyda lleiafswm o 24 awr rhwng digwyddiadau ac uchafswm o 20 digwyddiad bob blwyddyn galendr ym mhob eiddo, na ddylai bara am gyfanswm o fwy na 26 diwrnod.  

Gallwch wneud cais hwyr am TEN hyd at 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Gallwch gyflwyno hyd at 2 TEN hwyr, neu 10 os oes gennych drwydded bersonol, ar gyfer pob blwyddyn galendr. Nid yw diwrnodau gwaith yn cynnwys y diwrnod y derbyniwn eich rhybudd, diwrnod y digwyddiad, penwythnosau na gwyliau banc.

Rhaid eich bod yn unigolyn er mwyn  cyflwyno TEN, ni chaniateir i sefydliadau wneud hynny.

Taliad

Gellir gwneud cais ar-lein.

Rhaid i chi arddangos copi o’r rhybudd yn y digwyddiad lle mae modd i bobl ei weld.

Os nad oes gennych TEN a’ch bod yn cynnal gweithgaredd y dylech fod â thrwydded ar ei gyfer, gallwch gael dirwy, eich anfon i garchar am 6 mis, neu’r ddau. 

Gall yr Heddlu ac Adran iechyd yr Amgylchedd wrthwynebu i TEN. Os ydynt yn gwneud hynny fe gynhelir Pwyllgor Trwyddedu. Os ydych wedi gwneud cais hwyr am TEN a bod yr Heddlu neu Adran Iechyd yr Amgylchedd yn gwrthwynebu, ni allwch gynnal y digwyddiad.  

Mae’n rhaid i ddigwyddiad y gellir ei drwyddedu gael ei gynnal fel y manylwyd mewn hysbysiad sy’n rhaid ei roi. Rhaid i’r hysbysiad fod mewn fformat penodol a rhaid ei wneud gan rywun dros 18 oed.

Dylai’r hysbysiad gynnwys:

  • os cyflenwir alcohol, rhaid cael datganiad yn cadarnhau ei fod yn amod defnyddio’r safle, fod y cyflenwadau yn cael eu gwneud dan awdurdod defnydd yr adeilad
  • datganiad perthnasol i faterion arbennig
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ei angen

Y materion y cyfeiriwyd atynt uchod yw:

  • manylion y gweithgareddau trwyddedadwy
  • cyfnod y digwyddiad a dyddiadau
  • yr amser yn ystod y cyfnod y digwydd y gweithgareddau
  • mwyafswm y bobl y bwriedir eu caniatáu ar y safle
  • unrhyw faterion eraill sydd eu hangen

Rhaid rhoi’r HDDD yn ysgrifenedig (yn cynnwys moddau electronig) i’r Awdurdod Lleol o leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Mae ffi’n daladwy gyda’r hysbysiad.

Bydd yr Awdurdod Lleol yn cydnabod derbyn yr hysbysiad drwy hysbysu defnyddiwr y safle cyn diwedd y diwrnod gwaith cyntaf  y derbyniwyd ef, neu cyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith os nad yw’r diwrnod y derbyniwyd yr hysbysiad yn ddiwrnod gwaith.

Os nad yw’r cais wedi ei wneud yn electronig, mae’n rhaid i ddefnyddiwr y safle roi rhybudd i brif swyddog adran leol yr heddlu ddim hwyrach na deng niwrnod gwaith cyn cyfnod y digwyddiad.

Gall prif swyddog yr heddlu sy’n derbyn yr hysbysiad, ac sy’n credu y byddai’r digwyddiad yn tanseilio amcanion atal troseddu, gyflwyno rhybudd  gwrthwynebiad i’r awdurdod trwyddedu a defnyddiwr y safle. Rhaid i’r rhybudd hwn gael ei gyflwyno o fewn 48 awr o dderbyn yr hysbysiad digwyddiad dros dro.

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu lleol gynnal gwrandawiad os cyflwynir rhybudd gwrthwynebiad. Gallant gyflwyno gwrth rybudd os ystyrir hi’n angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo amcanion atal troseddu. Rhaid penderfynu o leiaf 24 awr cyn cychwyn y digwyddiad.

Gall prif swyddog yr heddlu addasu’r HDDD gyda chydsyniad defnyddiwr y safle.Yn y fath achos ystyrir y rhybudd gwrthwynebiad wedi ei dynnu’n ôl

Gall gwrth rybuddion gael eu darparu gan yr awdurdod trwyddedu os yw nifer yr HDDD wedi mynd dros y nifer a ganiateir.

Bydd - golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Gweler y manylion ar yr ochr dde.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os cyflwynir gwrth hysbysiad mewn perthynas i hysbysiad wrthwynebiad gall y deilydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylid cyflwyno apeliadau i’r Llys Ynadol lleol o few 21 diwrnod. Ni fedr cyflwyno apêl yn hwyrach na 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y digwyddiad arfaethedig.

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.

Pe byddai defnyddiwr yn gwneud cwyn, ein cyngor fyddai i chwi gysylltu â’r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Safle we GOV.UK roi cyngor i chwi. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU sef yr UK European Consumer Centre. 

Os bydd awdurdod trwyddedu yn penderfynu peidio cyflwyno gwrth hysbysiad mewn perthynas i hysbysiad yn gwrthwynebu gall y prif gwnstabl apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylid cyflwyno apeliadau i’r Llys Ynadol lleol o few 21 diwrnod. Ni fedr cyflwyno apêl yn hwyrach na 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y digwyddiad arfaethedig.