Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ymwadu cyfrifoldeb ynghylch eiddo


Mae Cyngor Sir Ynys Môn drwy hyn yn rhoi rhybudd ynghylch yr isod:

  1. Nid yw’r manylion yn cyfateb i unrhyw ran o gynnig neu gontract.
  2. Mae’r holl ddatganiadau sydd wedi eu cynnwys yn y manylion hyn mewn perthynas â’r eiddo hwn yn cael eu gwneud heb unrhyw gyfrifoldeb ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.
  3. Mae’r holl wybodaeth, disgrifiadau, mesuriadau a manylion eraill yn cael eu rhoi gyda phob ewyllys da a chredir eu bod yn gywir ond ni ddylai unrhyw ddarpar brynwyr ddibynnu arnynt fel datganiadau neu gyflwyniadau o’r ffeithiau a rhaid iddynt fodloni eu hunain o gywirdeb pob un ohonynt drwy archwiliad neu ddull arall.  Nid oes prawf wedi cael ei roddi ar unrhyw wasanaethau, offer, gosodiadau a ffitiadau sydd wedi eu cynnwys yn yr eiddo ac o’r herwydd, ni fedrir rhoi gwarant mewn perthynas â’u cyflwr a’u gweithrediad.
  4. Nid oes gan unrhyw berson a gyflogir gan Gyngor Sir Ynys Môn unrhyw awdurdod i wneud cyflwyniadau neu i roddi gwarant mewn perthynas â’r eiddo hwn.

Yn amodol ar gontract

 Mae’r holl drafodion yn amodol ar gontract/prydles ffurfiol.

Cynllunio gwlad a thref

Mae’r cyngor yn gweithredu ar wahân fel landlord ac fel awdurdod cynllunio. Mae Adain Rheoli Cynllunio’r cyngor yn delio gydag unrhyw faterion cynllunio gwlad a thref. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r defnydd cyfreithlon o eiddo unigol neu yn wir y dosbarth defnydd y byddai eich busnes chi ynddo, fe’ch cynghorir i wneud eich ymholiadau eich hun.