Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hyfforddiant hylendid bwyd


Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod pob person sy’n trin bwyd yn cael eu goruchwylio a'u cyfarwyddo a/neu eu hyfforddi mewn materion hylendid bwyd sy'n gymesur â'u gweithgarwch gwaith. Bydd maint yr hyfforddiant yn dibynnu ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r un sy’n trin bwyd

Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod pob person sy’n trin bwyd yn cael eu goruchwylio a'u cyfarwyddo a/neu eu hyfforddi mewn materion hylendid bwyd sy'n gymesur â'u gweithgarwch gwaith. Bydd maint yr hyfforddiant yn dibynnu ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r un sy’n trin bwyd.

Dylai staff sy'n trin bwydydd agored, risg uchel gael hyfforddiant hylendid bwyd sy'n cyfateb i Lefel 2, Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo o fewn 3 mis i ddechrau gweithio.

Cyn i staff gael dechrau gweithio am y tro cyntaf fel un yn trin bwyd, dylent dderbyn cyfarwyddyd llafar neu ysgrifenedig ar Hanfodion Hylendid Bwyd o leiaf, megis:

  • Cynnal lefel uchel o lendid personol a gwisgo dillad glân;
  • Golchi dwylo'n rheolaidd ac yn drylwyr cyn trin bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl trin gwastraff, cyn dechrau gweithio, ar ôl pob egwyl ac ar ôl chwythu eich trwyn;
  • Hysbysu eu goruchwyliwr cyn dechrau gwaith, am unrhyw haint ar y croen, trwyn, gwddf neu stumog neu os oes gennych glwyf heintiedig;
  • Cadw toriadau a briwiau wedi'u gorchuddio â gorchudd atal dŵr, sy’n amlwg iawn;
  • Cadw’r holl offer ac arwynebau’n lân;
  • Dealltwriaeth o arferion da o ran trin bwyd.

Mae'n arfer da bod y rhai sy’n trin bwyd agored, risg uchel ac sydd â gallu goruchwyliol fel pen gogydd neu gogydd, neu reolwyr, yn dilyn lefel uwch o hyfforddiant fel y Cwrs Hylendid Bwyd Canolradd (Lefel 3), neu'r Cwrs Hylendid Bwyd Uwch (Lefel 4).

Mae'n arfer da cadw cofnodion o hyfforddiant a gwblhawyd gan bob aelod o staff er mwyn helpu i ddangos cydymffurfiaeth â'r gofyniad hyfforddiant.

Dylai gweithredwyr busnesau bwyd adolygu anghenion hyfforddi staff yn rheolaidd a dylid adnewyddu neu ddiweddaru hyfforddiant lle bo angen. Argymhellir bod hyfforddiant yn cael ei adnewyddu o leiaf bob 3 blynedd.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu 10 fideo byr (Saesneg yn unig) sy'n rhoi canllawiau arfer gorau ar nifer o faterion diogelwch bwyd posibl, fel:

  • Golchi dwylo
  • Cadw offer ar wahân
  • Plâu
  • Cadw bwydydd wedi'u gorchuddio
  • Salwch staff
  • Glanhau'n effeithio
  • Oeri bwydydd
  • Coginio'n ddiogel
  • Ailgynhesu

Os oes angen cymorth pellach, cysylltwch â'r tîm diogelwch bwyd.