Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Swn y Môr - Y Cylchgrawn i AHNE Ynys Môn a'r Prosiect Llwybr Arfordirol

 

Gwarchodfa Natur Nant y Pandy (The Dingle), Llangefni

Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.

Lluniau o Nant y Pandy

Cafodd yr ardal ei gwella yn cynnwys llwybr bordau pren sy'n ymdroelli ar hyd Afon Cefni, tair pont droed newydd o goed derw, cerfluniau yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gwas y neidr enfawr, hadau planhigion anferthol a choed derw wedi eu hollti i ddatgelu'r gerdd 'Nant y Pandy' gan y bardd lleol, Rolant o Fôn.

Mae'r llwybr bordau pren yn caniatau i bawb fynd i sawl rhan o warchodfa. Rheolir Nant y Pandy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.

Coed derw digoes, ynn a cheirios gwyllt sydd i'w gweld yn bennaf mewn rhannau o'r coetir gyda sioe ysblennydd o glychau'r gog yn y gwanwyn. Mae rhannau eraill, coed sycamorwydden ac ambell i onnen sydd i'w gweld gyda phentwr o redyn a mwsog a blodau 'r goedwig megis blodau'r gwynt. Plannwyd castanwydd, ffawydd a phinwydd gwyllt yng Nghoed Plas a gwelir yno garped o gennin Pedr yn y gwanwyn.

Mae llyffantod a madfallod yn byw yn y mannau gwlyb ac mae gwiberod a genau-goegiaid yn byw yn y coetir sychach. Ceir yma sawl math o löyn byw megis llwyd bach y ddôl a brith y coed a gwyfynod hefyd. Yn ogystal, gwelir gweision y neidr a mursennod, pryfed hofran, gwenyn a gwenyn meirch, chwilod, gwlithod a malwod, pryfed cop, pryfed lludw a nifer o greaduriaid bychain eraill.

Mae adar i'w gweld yma drwy'r flwyddyn: mae'r titw tomos las a'r titw mawr yn nythu yn y coed a'r lâr ddwr hithau yn nythu wrth y dŵr; mae'r dryw a'r siglen lwyd yn enghreifftiau o'r adar bach sydd i'w gweld yn aml o'r llwybr bordiau pren a gwelir adar mwy megis y gigfran, y boncath a'r crëyr yn hedfan uwchben. Mae modd gweld glas y dorlan hefyd yn fflach o las trydanol neu drochwr yn siglo i fyny ac i lawr ar hyd yr afon. Gellir clywed y dylluan frech a'i gweld yn aml hefyd yn y coetir yn y nos.

Gellir gweld pysgod megis y brithyll, y cochiad a'r pysgodyn garw yn y Llyn Pwmp ac o bryd i'w gilydd daw siwin a'r slywen i ymweld.

Mae mamaliaid yn fwy anodd o lawer i'w gweld. Efallai na fydd modd gweld y llwynog, dim ond clywed ei arogl ar draws llwybr. Gellir gweld olion y llygoden goch a llygoden y maes yn y darnau o gnau cyll sy'n cael eu gadael ganddynt. Wrth iddi dywyllu, mae modd gweld 8 allan o'r 16 math o ystlum sydd ym Mhrydain.


Gweler Hefyd

  • Cysylltu - Gwasanaeth Cynllunio

    Gellir cysylltu â'r Gwasanaeth Cynllunio drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

  • Y Gwasanaeth Cynllunio: Rheoli Cefn Gwlad

    Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am reoli ei safleoedd Cefn Gwlad, yn cynnwys Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy, ac hefyd, mewn partneriaeth, i lunio a gweithredu cynllun rheolaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.

Safleoedd Gwe Perthnasol

  • Y Borth Cynllunio

    Gallwch ddefnyddio’r offer a’r wybodaeth ar y safle hwn i ddarganfod mwy am gynllunio yn eich ardal a pha ddatblygiadau y gallwch eu cyflawni o amgylch eich tŷ. Mae gwasanaethau’r Porth hefyd yn gadael i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio yn electronig yn ogystal â chyflwyno ac olrhain apêl ar-lein.

Diwygiad Diweddaraf: 18/04/2008
 

Dolen i safle we NetRegs

Dolen i Direct Gov - Gwybodaeth gan y Llywodraeth

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057