Mae'r adran, o dan arweiniad Mr Richard Parry Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Hamdden, yn darparu cyfleusterau a chyfleoedd addysgol a hamdden o safon ar gyfer pobl o bob oedran.
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Mr Richard Parry Jones
Penaethiaid Gwasanaeth
- Pennaeth Gwasanaeth : Addysg : Mr Gwyn Parri
- Pennaeth Gwasanaeth : Hamdden a Chymuned : Mr Aled Roberts
- Pennaeth Gwasanaeth : Addysg Gydol Oes a Gwybodaeth : Mr John Rees Thomas
Rôl a Chyfrifoldeb
Mae'r Adran Addysg a Hamdden yn gyfrifol am ddarparu amrediad o wasanaethau i holl blant, pobl ifanc ac oedolion y sir gan gynnwys darpariaeth addysgol, gweithgareddau adloniant, celfyddydol, archifol a threftadol. Mae'r amrediad hwn o wasanaethau yn cynnig cyfle cyfartal i unigolion beth bynnag fo'u hamgylchiadau personol a chymdeithasol i gyflawni eu potensial a dod yn aelodau llawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.
Crynodeb o rôl y gwasanaeth
Mae'r ddarpariaeth a gynigir yn cynnwys y meysydd gwasanaeth/canolfannau a restrir isod:
Addysg:
- Addysg Feithrin: i blant 3/4 oed
- Uned Cyn-Ysgol yn Llangefni a Chaergybi i asesu a dysgu sgiliau i blant ifanc a gyfeirir.
- Ysgolion Arbennig - Ysgol y Bont, Llangefni su'n darparu ar gyfer anawsterau cymedrol a dwys
- Ysgolion Cynradd - mae 52 o ysgolion cynradd ym Môn sy'n derbyn cefnogaeth weinyddol a chyllidol y Swyddfa Addysg
- Ysgolion Uwchradd mae 5 o ysgolion uwchradd wedi eu lleoli yng Nghaergybi, Amlwch, Bodedern, Llangefni a Phorthaethwy
- Uned Gyfeirio Disgyblion i blant sydd â phroblemau ymddygiad.
- Canolfan Iaith - mae Canolfan Iaith yn Llangefni a Chaergybi sy'n darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i ddisgyblion 7-11 ped sy'n newydd ddyfodiaid i ysgolion y Sir
- Unedau Anghenion Arbennig wedi'i lleoli yn Llandegfan a Chaergybi a Moelfre
Amcanion
Mae'r gwasanaeth wedi ei hymrwymo i:
- ddarparu addysg o'r ansawdd gorau i holl blant a phobl ifanc y sir.
- cynllunio strategol gan sefydlu amcanion a chyfeiriad i'r gwasanaeth addysg trwy ddehongli a goruchwylio gweithrediad polisïau cenedlaethol a sefydlu a gweithredu polisïau lleol
- ddarparu cyllid digonol ar gyfer adnoddau i ddarparwyr y gwasanaeth gyflawni'r safonau a'r lefelau gwasanaeth a ddisgwylir
- monitro a hyrwyddo ansawdd y ddarpariaeth gwricwlaidd yn yr ysgolion
- darparu gwasanaethau atodol arbenigol i gefnogi disgyblion ac ysgolion
Hamdden a Chymuned
- Canolfannau Hamdden - Amlwch, Biwmares, Caergybi, Plas Arthur
- Stadiwm Pêl Droed
- Parc, Caergybi
- Caeau Chwarae
- Cwrs Golff, Llangefni
- Lawntiau Bowlio a Tenis
- Gwasanaeth hybu chwaraeon
Addysg ac Oedolion
- Oriel Ynys Môn
- Casgliad Celf Tunnicliffe
- Casgliad Celf Kyffin Williams
- Melin Llynnon
- Llys Llywelyn
- Swyddfa Archifau
- Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth
- Hyfforddiant Môn Training
Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt, dilynwch y linciau isod.