Mae’r Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer pobl gyda chyflyrau meddygol isel i ganolig, a phobl/neu bobl nad ydynt yn weddol egnïol yn gorfforol neu sydd wedi eu datgyflyru oherwydd oed, segurdod neu niwed.
Mae’r cynllun yn anelu at gynnig y cyfle i bobl adeiladu mwy o weithgaredd corfforol i’w bywydau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau megis dosbarthiadau ymarfer ysgafn yn eu canolfan hamdden a’u hystafell ffitrwydd lleol, grwpiau cerdded ‘nordig’, dosbarthiadau ymarferion dÿr a dosbarthiadau seiclo dan do.
Darperir y cyfle i gleientiaid gymryd rhan mewn nifer o sesiynau ymarfer yn eich canolfan hamdden leol.
Mae gweithgaredd corfforol wedi dangos gwelliant yn iechyd a lles pobl mewn nifer o ffyrdd. Gall manteision gynnwys:
- lleihad mewn pwysedd gwaed
- lleihad mewn lefelau colesterol
- colli pwysau a lleihad mewn braster corff
- gwella lles a hyder gyda lleihad mewn iselder a phryder
Bydd angen i unrhywun sy’n dymuno cael mynediad i’r cynllun gael ei gyfeirio gan broffesiynolyn iechyd wedi ei gymhwyso’n llawn (meddyg teulu, nyrs practis, ffisiotherapydd ayyb)
Unwaith y bo ffurflen gyfeirio wedi ei chwblhau a’i hanfon at gydlynydd cyfeirio ymarfer byddwch yn derbyn galwad oddi wrth y Proffesiynolyn Ymarfer yn eich ardal i drefnu i chi gael apwyntiad.
Adferiad y galon
Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd yn darparu sesiynau Cam 4 adferiad y galon o dan y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlathol ar gyfer cleifion sydd wedi cael digwyddiad y galon yn ddiweddar. Mae sesiynau ar gael ym mhob un o 5 Canolfan Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn ac maent yn cael eu rhedeg gan hyfforddwr BACR wedi ei gymhwyso’n llawn. Cysylltwch â Mair Eluned am fwy o wybodaeth.
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth ynghylch y ffordd i gael eich cyfeirio neu ynghylch proffesiynolwyr iechyd am y modd neu am bwy y gellir eu cyfeirio cysylltwch â:
Mair Eluned (Cydlynydd Cyfeirio Ymarfer Cyngor Sir Ynys Môn )
Ffôn: 01248 752975
Ffôn symudol: 07795 127300
Ebost: mejed@ynysmon.gov.uk