Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 

Cynllunio, adeiladu a datblygiad

Croeso i Wasanaeth Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn.

Bob blwyddyn caiff miliynau o bunnoedd eu gwario ar adeiladu tai, siopau, ffatrïoedd a chyfleusterau ymwelwyr newydd ar Ynys Môn. Mae'r datblygiad hwn yn helpu'r economi lleol, a gall gyfrannu at wella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol. Mae'n ddatblygiad sydd bron bob amser angen caniatâd cynllunio'r cyngor sir sy'n gweithredu fel yr awdurdod cynllunio lleol.

Lluniau yn adlewyrchu cefn gwlad, cynllunio, henebion ac adeiladu

Prif nodau'r Gwasanaeth Cynllunio yw gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol trwy hyrwyddo datblygiad cynaliadwy a thrwy reoli datblygiad er lles y cyhoedd. Gallwn gynorthwyo cyflawni'r amcanion hyn trwy roi cyngor eglur i chi ar y gyfundrefn gynllunio.

Byddwch yn falch o wybod fod rhyw 90% o geisiadau cynllunio yn cael eu cymeradwyo. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall datblygiad newydd fod yn bwnc llosg a gofyn am sylw gofalus. Mae'r Gwasanaethau Cynllunio yma i wasanaethu Ynys Môn ac rydym yn sicr y gallwn gael datblygiad o'r ansawdd uchaf trwy weithio gyda'n cwsmeriaid.

Gwaith y Gwasanaeth Cynllunio?

Mae gan Wasanaeth Cynllunio'r Cyngor chwe phrif faes gwaith yn cael ei wneud gan o ddeutu 50 o staff mewn gwahanol dimau:

Rheoli Cynllunio:

ceisiadau cynllunio ac archwiliadau, cwynion a thorri rheolau, mwynau / Gwastraff, gorfodaeth, apeliadau

Chwilotwch drwy lyfrgell gofnodion y cyngor er mwyn darganfod pa bynciau y trafodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Rydym yn edrych i fewn i gyhoeddi agendau ac adroddiadau yn y dyfodol agos a rydym yn cynnal peilot gyda'r  Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Rheoli Adeiladu:

ceisiadau ac archwiliadau, cwynion a thorri rheolau, adeileddau peryglus

Yr Amgylchedd Adeiledig:

ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, gwelliannau masnachol, cyngor ar ddylunio a chadwraeth

 
Cefn Gwlad:

wardeinio a rheoli safleoedd, ardal o harddwch naturiol eithriadol, Parc Gwledig y Morglawdd, Nant y Pandy Llangefni

Tirwedd: 

coed, gwrychoedd, Coed Cymru / rheoli coetir, cyngor ar ddylunio tirwedd

Polisi Cynllunio:

cynllun datblygu, hysbysrwydd ac ymchwil, cynllunio cymunedol / Agenda 21 Lleol, Bioamrywioldeb


Gweler Hefyd

  • Rhestr o eiddo masnachol i'w osod

    Yn yr adran hon ceir manylion am eiddo masnachol sy’n perthyn i’r cyngor ac sydd i’w gosod ar rent. Darperir hefyd nodiadau cyfarwyddyd ar y drefn gosod eiddo.

  • Eiddo masnachol i'w osod

    Yn yr adran hon ceir manylion am eiddo masnachol sy’n perthyn i’r cyngor ac sydd i’w gosod ar rent. Darperir hefyd nodiadau cyfarwyddyd ar y drefn gosod eiddo.

  • Tai
  • Cysylltu - Gwasanaeth Cynllunio

    Gellir cysylltu â'r Gwasanaeth Cynllunio drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

Safleoedd Gwe Perthnasol

  • Y Borth Cynllunio

    Gallwch ddefnyddio’r offer a’r wybodaeth ar y safle hwn i ddarganfod mwy am gynllunio yn eich ardal a pha ddatblygiadau y gallwch eu cyflawni o amgylch eich tŷ. Mae gwasanaethau’r Porth hefyd yn gadael i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio yn electronig yn ogystal â chyflwyno ac olrhain apêl ar-lein.

  • Cymorth Cynllunio Cymru

  • NetRegs: Masnachau saernïo ac adeiladu

    Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y masnachau adeiladu, dymchwel, peiriannau sifil a saernïo.

Diwygiad Diweddaraf: 02/07/2010
 

Y Borth Cynllunio

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057