Cefnogi busnesau drwy gyfnod called fydd nod Digwyddiad Busnes Môn sydd i'w gynnal yn hwyrach eleni.
Caiff y Digwyddiad Busnes Môn cyntaf ei gynnal rhwng Medi 29ain 2009 a Hydref 1af 2009. Wedi ei drefnu gan Gyngor Sir Ynys Môn, bydd yn cynnwys tri phrif ddigwyddiad yn Oriel Ynys Môn, Gwesty Bae Trearddur Bay a Chanolfan Ymwelwyr y Wylfa.
Ceir nifer o weithdai a siaradwyr gwadd ynghlwm â'r digwyddiadau, fydd hefyd yn cael eu defnyddio fel fforwm pwysig ar gyfer rhwydweithio, gan alluogi busnesau i rannu arfer da.
Bydd gan fusnesau gyfle i gofrestru diddordeb mewn mynychu yn ystod Sioe Môn. Bydd Swyddog Cymorth I Fusnes Môn, Yvonne Owen, ym mhafiliwn y Cyngor Sir (B51) ac yn barod i drafod gyda busnesau.
Eglurodd, "Ein nod drwy drefnu Digwyddiad Busnes Môn yw helpu busnesau drwy'r cyfnod economaidd anodd presennol. Yno ceir cyfleoedd i rwydweithio a rhannu arfer da, ynghyd â chyngor ar amryw o bynciau pwysig i fusnesau, megis marchnata, iechyd a diogelwch a grantiau."
Bydd gwybodaeth am Gronfa Buddsoddi Lleol Gogledd Orllewin Cymru (LIF) hefyd ar gael. Bydd y LIF yn darparu grantiau Ewropeaidd o hyd at £5,000 i helpu busnesau bach a chanolig (SMEs) o fewn y rhanbarth.
Pwysleisiodd y deilydd portffolio Datblygu Economaidd a Thwristiaeth, y Cynghorydd Bryan Owen, "Fel Awdurdod, rydym yn sylweddoli fod hi'n amser caled iawn i nifer o fusnesau. Mae Digwyddiad Busnes Môn yn fodd i ni gynnig cymorth i fusnesau."
Ychwanegodd, "Mae hwn yn gyfle gwych i'r gymuned fusnes yma ym Môn. Byddaf yn annog busnesau a chwmnïau i gofrestru eu diddordeb yn ystod Sioe Môn a mynychu un, os nad mwy, o'r digwyddiadau sydd yn cael eu trefnu ar hyn o bryd."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Swyddog Cymorth i Fusnes Môn, Yvonne Owen, ar (01248) 752484 neu drwy e-bost: yoxpl@ynysmon.gov.uk
DIWEDD 31.7.09
Am ragor o wybodaeth: cysylltwch gyda Swyddfa'r Wasg - dilynwch y ddolen isod.