Rhestrir isod telerau aelodaeth y gerdyn hamdden.
Os byddwch yn colli neu'n difrodi'r cerdyn bydd yn rhaid i chi brynu un yn ei le.
Er mwyn cael mynediad i gyfleusterau a manteisio ar raddfeydd gostyngol (hyd at 25%) mae'n rhaid i chi fod â'ch cerdyn wrth law bob amser i'w sweipio yn system gyfrifiadurol y ganolfan hamdden. Os na ddewch â'ch cerdyn mae'n bosibl y codir y pris llawn arnoch.
Nodwch: Bydd yn rhaid i chi hefyd ddangos eich cerdyn er mwyn cymryd rhan yn y fenter nofio di-dâl yn ystod gwyliau'r ysgol. Gweler y linc yn y llyw ar y chwith.
Cyhoeddir y cardiau gyda chyfeirnod unigryw ar gyfer pob unigolyn, ac nid ydynt yn drosglwyddadwy. Bydd y rhai y darganfyddir eu bod yn defnyddio cardiau unigolion eraill yn fforffedu'r hawl i gael cerdyn.
Mae'r cerdyn yn caniatâu i chi archebu cyflesterau i fyny at 6 diwrnod ymlaen llaw dros y ffôn. Fodd bynnag, os byddwch yn methu ag anrhydeddu'r archeb codir tâl arnoch a gwneir eich cerdyn yn annilys nes y telir y swm.
Am ragor o wybodaeth ar fwcio, gweler ein tudalen rheolau ac amodau cyffredinol os gwelwch yn dda. Mae’r amodau bwcio yw rhif 18 yn y rhestr. I weld y tudalen, dilynwch y ddolen gweler hefyd isod.