Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Swn y Môr - Y Cylchgrawn i AHNE Ynys Môn a'r Prosiect Llwybr Arfordirol

 

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn

Mae i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn un o’r tirweddau mwyaf amrywiol, prydferth ac arbennig ym Mhrydain.

Lluniau Ynys Môn


Cafodd arfordir Môn ei ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1966 a’i gadarnhau yn 1967. Fe’i dynodwyd er mwyn diogelu apêl esthetaidd ac amrywiaeth tirwedd arfordirol a chynefinoedd yr ynys rhag datblygu amhriodol.

Dynodiad arfordirol gan mwyaf yw’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n ymwneud â’r rhan fwyaf o 201 cilometr (125 milltir) o arfordir yr ynys ond gan gynnwys hefyd Fynydd Caergybi a Mynydd Bodafon. Mae swm sylweddol o dir arall sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gefndir i’r arfordir. Cyfanswm tir yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym Môn yw 221 cilometr sgwâr (21,500 hectar), a hon yw’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fwyaf yng Nghymru gyda thrydedd ran o’r ynys ynddi.

Caiff nifer o cynefinoedd Ynys Môn eu diogelu ymhellach trwy ddynodiadau’r DU ac Ewropeaidd oherwydd eu gwerth o ran cadwraeth natur, ac mae’r rhain yn cynnwys :

  • 6 ymgeisydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • 4 Ardal Diogelwch Arbennig
  • 1 Warchodfa Natur Genedlaethol
  • 26 o Safleoedd Gwyddonol Arbennig
  • 52 o Henebion Rhestredig

Mae’r cynefinoedd hyn a ddiogelir yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt fel Llamidyddion yr Harbwr a Brith y Gors.

Yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fe geir hefyd dri darn o arfordir agored heb ei ddatblygu sydd wedi eu dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae’r dynodiadau anstatudol hyn yn ategu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gan ymwneud ag oddeutu 50 km (31 milltir) o’r arfordir. Dyma’r rhannau o’r Arfordir Treftadaeth:

  • gogledd Môn  28.6 kms (17 milltir)
  • Mynydd Twr   12.9 kms (8 milltir)
  • Bae Aberffraw  7.7 kms (4.5 milltir)

Gwaith a Gweithgareddau yn yr Ardal

Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw’r cyflogwyr mwyaf yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mewn rhai achosion, mae’n gyfuniad o’r ddau. Mae ystod y cynnyrch lleol geir ar yr ynys yn amrywio o gaws a siocled i win. Mae llawer o’r cynnyrch lleol hefyd yn organig.

Lluniau cyffredinol Ynys Môn

Bydd oddeutu 2 filiwn o bobl yn ymweld â’r ynys bob blwyddyn gan ddenu pobl o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a hefyd ymwelwyr o dramor. Mae’r ynys yn cynnig nifer o gyfleon hamdden i’r trigolion ac i ymwelwyr, gyda’r mwyafrif yn mwynhau’r traethau tywod gwych a’r golygfeydd ysblennydd.

Rhai o’r dulliau hamddena mwyaf poblogaidd yw hwylio, pysgota, seiclo, cerdded, syrffio gwynt a jet sgïo. Mae’r rhain oll yn rhoi pwysau ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar yr un pryd, mae poblogrwydd yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol fel lle i gynnal y fath weithgareddau yn amlwg yn cyfrannu at yr economi leol.

I gysylltu â'r tîm AHNE Ynys Môn, dilynwch y ddolen isod i "Cysylltu - Gwasanaeth Cynllunio".


Gweler Hefyd

  • Cysylltu - Gwasanaeth Cynllunio

    Gellir cysylltu â'r Gwasanaeth Cynllunio drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

  • Sŵn y Môr

    Croeso i Sŵn y Môr ar-lein - y cylchgrawn i AHNE Ynys Môn a’r Prosiect Llwybr Arfordir. Gallwch ddarllen erthyglau newyddion o argraffiadau cyfredol a blaenorol o'r cylchgrawn.

Safleoedd Gwe Perthnasol

  • Cymdeithas Genedlaethol AoHNE

    The National Association for Areas of Outstanding Natural Beauty (NAAONB) was formed in 1998 as an independent organisation to act on behalf of Areas of Outstanding Natural Beauty (AONBs) in England and Wales. (Ar gael yn Saesneg yn unig)

  • Cymdeithas Gwaith Maes

    Mae Cymdeithas Gwaith Maes yn bodoli i hyrwyddo addysg yr amgylchedd yng Nghymru trwy gyhoeddi deunydd ar gyfer ysgolion.

Diwygiad Diweddaraf: 13/01/2010
 

Logo yr AHNE

Cymdeithas Genedlaethol AoHNE

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057