Os ydych eisiau dilyn hanes eich cartref, darganfod gwreiddiau eich bro neu ddilyn trywydd hanes eich teulu, bydd ein staff cyfeillgar a gwybodus yn eich arwain a'ch cynorthwyo drwy ein casgliadau o ddogfennau hanesyddol.
Priod waith yr Archifdy yw sicrhau parhad a goroesiad tystiolaeth ddogfennol, gyhoeddus a phreifat, sy'n cynrychioli ac yn adlewyrchu bywyd ar Ynys Môn dros y canrifoedd. Y mae'r Archifdy trwy wneud hyn yn cadw'r genhedlaeth heddiw (a chenedlaethau'r dyfodol) mewn cysylltiad â'u treftadaeth.
Mae amryw nad ydynt yn llwyr werthfawrogi maint a chyfoeth y deunydd sydd ar gael yn yr Archifdy. Mae llawer yn darganfod nad yw chwilota yn yr archifau yn weithgaredd sych academaidd ond yn waith hamdden llawn mwynhad a diddordeb.
Am fanylion llawn am sut i gysylltu â'r archifdy ynghyd ag oriau agor a lleoliad, gweler y dolenni ar y chwith.
Newydd ddod i law - amseroedd agor newydd
O ddydd Llun y 16 o Awst fydd gan yr archifdu oriau agor newydd. Or dyddiad hwnnw, gewch ymweld â'r Archifdy yn ystod yr oriau canlynol:
| Dydd Llun | 9.15am - 4.45pm | | Dydd Mawrth | 9.15am - 4.45pm | | Dydd Mercher | 2pm - 4.45pm (2pm -7pm, ar yr ail a`r pedwerydd nos Fawrth o`r mis.) | | Dydd Iau | 9.15am - 4.45pm | | Dydd Gwener | 9.15am - 4.45pm |
|
Nodwch os gwelwch yn dda y byddwn ar gau i`r cyhoedd bob bore Mawrth rhwng 9 a 2 i rhoi cyfle i ni ddilyn gwahanol prosiectau allanol."