Bydd ffi lansio yn daladwy ar gyfer pob bad pŵer ym mhob un o'r llithrfeydd a phwyntiau mynediad canlynol: Traeth Bychan, Biwmares, Trearddur, Rhoscolyn, Rhosneigr, Porth Llechog a Phorthaethwy. Naill ai yn ddyddiol neu'n dymhorol.
Beth yw'r ffioedd ar gyfer 2010?
Wrth y llithrfa:
Ffi dyddiol: £13
Ffi tymhorol: £130
Yn uniongyrchol gan y cyngor:
Ffi dyddiol: dim yn berthnasol
Ffi tymhorol: £130
Gall pobl sy’n meddu ar gymhwyster handlo cwch pwer cydnabyddedig wneud cais am ad-daliad o £40.00 ar y ffi i lansio tymhorol - gweler y ddogfen PDF isod. Mae’r ad-daliad yma ar gael trwy gais trwy’r post neu trwy gais personol yn swyddfa’r Cyngor yn Llangefni a nid yw ar gael ar y llithrfeydd.
Sut i dalu
Gellir talu'r ffioedd tymhorol a dyddiol i'r goruchwylwyr yn y safleoedd uchod.
Gellir hefyd talu'r ffioedd tymhorol a misol:
- trwy'r post (peidiwch ag anfon arian parod - sieciau yn unig os gwelwch yn dda)
- mewn person wrth dderbynfa Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Eiddo (derbynir arian parod a sieciau)
Sieciau yn daladwy i "Cyngor Sir Ynys Môn".
Dilynwch y ddolen gweler hefyd "Cysylltu â Gwasanaethau Morwrol" ar waelod y dudalen hon ar gyfer ein manylion cyswllt llawn ac oriau agor. Am wybodaeth ar sut i gyraedd ein swyddfa, dilynwch y ddolen gweler hefyd ar waelod y dudalen hon "Ble mae ein swyddfeydd ac adeiladau?"
Trwyddedau lansio dyddiol
Bydd raid i'r rheiny nad ydynt yn talu am drwydded lansio dymhorol gofrestru cyn lansio. Am fanylion ar y cynllun cofrestru, dilwynch y ddolen perthnasol ar y chwith.