Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 

Cynllun Datblygu

Penderfynwyd rhoi'r gorau i weithio ar Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (CDU) a symud ymlaen i weithio ar system Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl).

Unwaith y mabwysiedir y cynllun hwn bydd yn disodli'r fframwaith cynllunio sydd gennym ar hyn o bryd, sef Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (2001) Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) a Chynllun Lleol Ynys Môn (1996).

Beth yw cynllun datblygu?

Gweledigaeth y cynllun datblygu yw cymunedau cynaliadwy ar Ynys Môn ac mae’n pennu fframwaith o bolisïau fydd yn cael eu defnyddio i gynorthwyo gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Mae’r cynllun yn ystyried yr angen am ddatblygiad a chadwraeth fel ei gilydd ac yn siapio’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud ar faterion cynllunio pwysig. Bydd hefyd yn cysylltu â pholisïau eraill y cyngor ar briffyrdd, gwastraff, yr amgylchedd a datblygiad economaidd.

Caiff y cynllun ei baratoi trwy ymgynghori â’r cyhoedd a bydd yn tywys datblygiad i’r lle mwyaf priodol iddo. Bydd hefyd yn cyfyngu ar ddatblygiad lle nad yw’n addas. Mae’r cynllun yn ystyried llawer math o ddatblygiad gan gynnwys preswyl, diwydiant a thwristiaeth. Caiff ei arolygu, ei adolygu a’i ddiweddaru i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cyson yn y dyfodol.

Bydd y cynllun hefyd yn ystyried cyfarwyddyd Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cyngor sy’n cael ei gynnig ar lawer o bynciau gan gynnwys adwerthu, telathrebu, twristiaeth ac ati.


Diwygiad Diweddaraf: 13/10/2009
 

Y Borth Cynllunio

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057