Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 

Gofal yn y gymuned ar gyfer pobl hŷn

Pwy sy'n gymwys i dderbyn gofal yn y gymuned?

Mae'r dudalen hon yn cyflwyno gwybodaeth i chwi ar y gwasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo pobl gydag anghenion gofal yn y gymuned a sut y gallwch elwa o'r gwasanaethau hyn.

Y Cam Cyntaf yw ceisio gwybodaeth gan unrhyw un o'r mudiadau sydd wedi eu rhestru.

Yr Ail Gam yw trafod eich anghenion gydag Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, fydd os ydych yn dymuno, yn cynnal Asesiad o'ch anghenion a fydd yn arwain at ddarparu Pecyn Gofal Addas.

Y Trydydd Cam yw y bydd rhaid i chi benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

Sut i gysylltu â ni?

Fe all problemau corfforol neu gymdeithasol fod yn rhwystr i'ch ffordd o fyw. Os oes gannych unrhyw broblemau iechyd efallai fe ddymunwch siarad â'ch meddyg i ddatgan eich pryderon. Os ydych chwi neu rywun yn eich gofal o'r farn bod angen cymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol, gallwch ysgrifennu, ffonio, neu alw i mewn yn ein swyddfa yn Llangefni (gweler ein manylion cyswllt drwy ddilyn y linc aralliad y dudalen) neu fe allwch ofyn i berthynas neu gyfaill i gysylltu gyda ni ar eich rhan.

Sut i ofyn am asesiad?

Os nad yw'r person cyntaf yr ydych yn siarad ag yn gallu ateb eich holl gwestiynau, yna gallwn drefnu i naill ai Weithiwr Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol, Ymgynghorydd Anabledd, neu unrhyw aelod proffesiynol
arall o Iechyd Cymunedol i ymweld â chwi adref er mwyn

  • Egluro eich sefyllfa
  • Cyflwyno gwybodaeth i chwi am y gwasanaethau sydd ar gael
  • Cynnig cyngor a chymorth
  • Cynnig asesiad llawn o'ch anghenion a thrafod pa wasanaethau sydd angen eu darparu i gyfarfod â'ch anghenion

Mae gan ofalwyr hawl i ofyn am asesiad ar wahân o'u hanghenion eu hunain. Fodd bynnag byddwn yn ceisio rhoi ystyriaeth i anghenion pob gofalydd wrth asesu'r sawl sydd yn eu gofal.

Gellir gwneud trefniadau i asesu eich anghenion unai yn eich cartref neu rhywle arall (e.e. Ysbyty).

Mewn argyfwng byddwn yn trefnu i asesu eich anghenion ar frys - h.y. o fewn 24 awr. Os bydd argyfwng yn digwydd yn ystod penwythnos neu gyfnod gwyliau gallwch gysylltu â Thîm Allan o Oriau (gweler ein manylion cyswllt drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen).

A fydd rhywun arall yn gysylltiedig â'r asesiad?

Gall aelod arall o'r teulu neu ofalydd fod gyda chwi yn ystod yr Asesiad, a chroesawir unrhyw sylwadau ganddynt. Bydd yr Asesydd yn falch o gael sgwrs â nhw.

Os oes gennych chwi neu'ch gofalydd unrhyw broblemau gyda'ch iechyd neu'ch cyflwr corfforol / meddyliol, bydd yr Asesydd yn ystyried yr angen i gysylltu gyda'ch Meddyg, neu'R Nyrs Ardal neu eraill sy'n rhan o wneud yr asesiad. Bydd Y Meddyg, Y Nyrs Ardal a'r Gweithiwr Cymdeithasol yn gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaethau cywir i ateb eich anghenion.

Mewn achosion pan fydd yr asesiad yn digwydd yn yr Ysbyty, fe gynhwysir pawb sy'n gysylltiedig â'ch triniaeth yn yr asesiad er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn pecyn gofal sydd fwyaf addas i gyfarfod a'ch anghenion. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i'ch helpu i ddychwelyd adref ac i hyrwyddo eich annibyniaeth.

Gwasanaethau ar gael yn y gymuned i hybu annibyniaeth

Mae'r gwasanaethau sydd ar gael i'ch cynorthwyo i barhau i fyw gartref y cynnwys:

  • Gofal Cartref a chymorth gyda gofal personol;
  • Pryd ar Glud neu fwydydd wedi eu rhewi;
  • Gwasanaethau Gofal Dydd;
  • Gofal Môn - System Larwm Gymunedol i alw am gymorth mewn argyfwng;
  • Addasiadau neu ddarpariaeth offer;
  • Cymorth ymarferol a chefnogaeth i Ofalwyr;
  • Cyngor ynglŷn â'ch hawliau i fudd-daliadau;
  • Gofal Ysbaid dros dro mewn cartrefi preswyl neu nyrsio / ysbytai cymunedol ( yn unol â'ch lefel o angen);
  • Llety Gwarchod neu gynlluniau byw yn y gymuned gyda gofal ychwanegol.

Efallai eich bod yn deilwng i gefnogaeth neu wasanaethau eraill sy'n ymwneud â thai i'ch galluogi chwi i fyw yn fwy annibynnol. Fel arfer mae cyfnod amser y gwasanaethau yma wedi eu cyfyngu ac yn cael eu darparu
o dan Raglen Cefnogi Pobl. Gweler y linc isod.

  • Cymorth gyda sicrwydd a diogelwch yn y cartref;
  • Cymorth gyda threfnu a delio ag atgyweiriadau bychan i gyfarpar a chynnal a chadw dyfeisiau;
  • Hyfforddiant sgiliau bywyd;
  • Hebrwng a chymorth gyda siopa a rhedeg negeseuon eraill;
  • Cymorth / cyngor gyda chyllid personol

Pwy fydd yn darparu'r gwasanaethau?

Gennych chwi y mae'r hawl i ddewis pwy sy'n darparu'r gwasanaethau. Gall staff Gofal Cartref Gwasanaethau Cymdeithasol neu Asiantaethau Annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo gan yr Adran i ddarparu'r gwasanaethau yma.

Beth fydd yn dilyn yr asesiad?

Ar ôl cynnal yr asesiad o'ch anghenion, bydd yr Asesydd yn gweithio gyda chydweithwyr proffesiynol arall er mwyn trefnu pecyn gofal neu wasanaethau cefnogol ac anghenion iechyd. Bydd hyn yn cael ei gyfarfod o fewn yr adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd ar gael.

Bydd Asesydd yn ymweld â chi o bryd i'w gilydd i adolygu'r gwasanaeth a sicrhau fod y ddarpariaeth yn parhau i fod yn ddigonol. Fe allwch gysylltu â'r Adran os dymunwch, i ofyn am adolygiad o'ch anghenion pe bai eich amgylchiadau yn newid.

Costau gwasanaeth yn y gymuned

Bydd Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn codi tâl bechan am rai gwasanaethau megis, Gofal Cartref, Gofal Dydd, Pryd ar Glud, a chludiant. Adolygir y costau hyn o bryd i'w gilydd.

Y drefn gwyno

Mae Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus i dderbyn adborth oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth ynglŷn â'r ffordd yr ydym yn trefnu a darparu gwasanaethau. Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn swyddogol i'r Adran os ydych yn anfodlon gyda'n gwasanaeth (gweler ein manylion cyswllt drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen)

Mannau gwybodaeth

Canolfan Byw'n Integredig
ffôn (01248) 750249

Canolfan Y Di-Waith
ffôn (01407) 760208

Canolfannau Cynghori
Caergybi : Ffon: (01407) 762882
Bangor : ffôn: (01248) 352598
Llangefni: ffôn: (01248) 724902

Cyngor Henoed Môn a Gwynedd
ffon: (01286) 677711

Cyngor Iechyd Cymunedol
ffon: (01248) 723283

Cymdeithas Clefyd Alzheimers Gwynedd a Môn
ffôn: (01248) 353608

Cynnal Gofalwyr
ffôn: (01248) 370797
ffacs:(01248) 371302

Gofal Môn
ffôn: (01248) 750124/5

Tîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty Canolfan Byw'n Integredig Ysbyty Gwynedd
Bangor
ffôn (01248) 384968
ffacs (01248) 371220

Ymddiriedolaeth Elusennol Hawliau
Lles Anabledd
ffon: (02148) 352227


Gweler Hefyd

  • Gofal cartref

    Parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain yw dewis y rhan fwyaf o bobl. Weithiau mae angen cymorth a chefnogaeth i wneud hyn.

  • Cefnogi Pobl

    Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn anelu i hybu triniaeth deg a chyfleon cyfartal i’r bobl hynny yn y gymuned sydd ag anghenion tai a gofal cymdeithasol.

  • Hybu Byw Annibynnol

    Ein hamcan yw galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth ac i fyw yn ei cartrefi a chymunedau.

  • Ble mae prif swyddfeydd y cyngor?

    Mae'r gwasanaethau canlynol wedi'i lleoli ym mhrif swyddfeydd y cyngor yn Llangefni: Iechyd Amgylchyddol; Cyllid (gan gynnwys treth cyngor, budd dâl tai a thaliadau); Tai; Gwasanaethau Cymdeithasol; Safonnau Masnach; Priffyrdd.

  • Cysylltu - Gwasanaethau Cymdeithasol

    Gellir cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

Atodiadau

Bydd y ffeiliau canlynol yn agor yn ei rhaglenni perthnasol (ee Darllenydd Adobe Acrobat, Word). Mae pob atodiad yn agor yn yr un ffenestr porwr. Cliciwch ar y botwm "Back" ar eich porwr i ddychwelyd i'r wefan hon.

I weld ffeiliau PDF ar ein gwefan byddwch angen Darllenydd Adobe Acrobat fersiwn 5 neu uwch. I ddadlwytho'r meddalwedd am ddim, ymwelwch â gwefan Adobe

Am gymorth gyda darllen ffeiliau PDF, ymwelwch â thudalennau hygyrchedd Adobe

Acrobat/PDF FileGofal yn y gymuned ar gyfer pobl hyn
Math o Ddogfen:Acrobat/PDF File
Fformat y ddogfen:136k

Diwygiad Diweddaraf: 15/05/2008
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057