Diolch i Gronfa Cist Gymunedol Ynys Môn, mae 7 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ar Ynys Môn wedi derbyn £5053 rhyngddynt ar gyfer prosiectau arfaethedig mewn cyfarfod yn ddiweddar.
Caiff y Gist Gymunedol ei chyllido gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Dywedodd Sian Mai Jones o Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Môn ‘gall clybiau Ynys Môn gyflwyno cais am hyd at £1000 i’w wario ar brosiect. Mae’n gyfle gwych i glybiau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, ac rydym yn annog clybiau i gyflwyno ceisiadau’.
Mae Clwb Athletau Ynys Môn wedi derbyn grant i addysgu ei hyfforddwyr, athletau a rheolwyr tîm fel y gallant arwain sesiynau athletau yn yr ysgolion a denu disgyblion newydd i’r clwb.
Mae Canolfan Hamdden David Hughes wedi derbyn grant i gyflwyno camp newydd, sef Futsal, i’r gymuned leol gan weithio gyda chlybiau ieuenctid a grwpiau cymunedol.
Os ydych chi’n rhedeg clwb neu os oes gennych syniad yr hoffech ei ddatblygu, yna’r dyddiad cau ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Gist Gymunedol yw 5 Ionawr. Gellwch gael ffurflen gais trwy gysylltu gyda Mandy Jones ar 01248 752026 neu cliciwch ar linc safle gwe y Gist Gymunedol isod.