Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English
Busnes| Safonau masnach|Ffliw adar|

Maes Awyr Môn - dolen i safle we Maes Awyr Môn

Dolen i safle we Môn Ewrop

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

 
Lleoliad Presennol: busnes | safonau masnach

Safonau Masnach

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor yn gwasanaethu'r gymuned drwy hyrwyddo amgylchedd masnach deg a chyfiawn, annog arferion busnes da a thrwy ddiogelu'r defnyddwyr.

Masnachwyr

Rydym yn cynnig cyngor ar bob agwedd o safonau masnach, yn gwneud archwiliadau wedi'i rhaglennu ac yn archwilio cwynion defnyddwyr. Croesawir ymholiadau gan fusnesau lleol am gyngor ar eu dyletswyddau cyfreithiol.

Defnyddwyr

Rydym yn archwilio eich cwynion a chynnig cyngor cyfreithiol i drigolion ac ymwelwyr sydd wedi prynu nwyddau diffygiol neu wedi derbyn gwasanaethau annigonol. Am wybodaeth bellach ar eich hawliau fel defnyddiwr, dilynwch y linc 'gweler hefyd' ar waelod y dudalen hon i'n tudalennau cyngor defnyddwyr. 

Trwyddedu

Mae'r Tîm Trwyddedu yn rhan o'r Gwasanaeth Safonau Masnach sy'n gwneud gwaith gweinyddol a gorfodaeth ynghylch trwyddedu amryfal ddigwyddiadau, gan gynnwys:-

  • adloniant cyhoeddus, cerddoriaeth a dawnsio
  • gyrwyr a cherbydau hacni a cherbydau hurio preifat
  • gwenwynau a phetroliwm
  • lotrïau
  • casgliadau stryd

Rydym hefyd yn rhoi cyngor i fusnesau a thrigolion Ynys Môn ynghylch materion trwyddedu, yn ogystal ag archwilio ac ymweld ag eiddo trwyddedig a chymryd camau gorfodaeth ynghylch gweithgareddau nad oes trwydded ar eu cyfer neu yn erbyn y rheini sy'n torri amodau trwyddedau.


Gweler Hefyd

  • Cyngor defnyddwyr

    Ein nod yw rhoi cyngor a chymorth i drigolion ac ymwelwyr i Fôn yn ddiduedd, proffesiynol a chyfrinachol, sy'n hwylus ac yn rhad ac am ddim yng nghyswllt unrhyw broblem gyda nwyddau.

  • Cysylltu - Gwasanaeth Safonau Masnach

    Gellir cysylltu â Safonau Masnach drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

  • Trwyddedu a chofrestru ar gyfer busnes

    Dilynwch y linciau i'r chwith am wybodaeth ar sut i ymgeisio am drwyddedau Am wybodaeth ar y materion trwyddedu a restrir isod, cysylltwch â'r tîm trwyddedu yn Safonau Masnach.

Safleoedd Gwe Perthnasol

  • Trading Standards Central

    Trading Standards Central - a one stop shop for consumer protection information in the UK. This site provides a wealth of information for consumers and businesses, schools, advice and information centres, community organisations, local councils, business support agencies and trade associations. (Saesneg yn unig)

  • Cyswllt Defnyddwyr

    Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth sy’n cynnig cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein. Mae’n cael ei gefnogi gan yr Adran Masnach a Diwydiant. Rydym yn rhoi cyngor clir, ymarferol, diduedd i’ch helpu i ddatrys problemau ac anghytundebau y gallech eu cael gyda chyflenwyr nwyddau neu wasanaethau.

  • Office of Fair Trading

    The OFT is responsible for making markets work well for consumers. We achieve this by promoting and protecting consumer interests throughout the UK, while ensuring that businesses are fair and competitive (dim yn Gymraeg)

Diwygiad Diweddaraf: 25/08/2009
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057