Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 

Gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth i ymwelwyr


Gweler ein gwefan dwristiaeth www.croesomon.com
Os ydych yma ar fusnes neu'n mwynhau gwyliau ar yr ynys, mae croeso i chi ddefnyddio'n gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth.

Ymwelwyr ar fusnes

Os ydych yma ar fusnes, gallwch fanteisio ar un neu fwy o’r gwasanaethau canlynol:

  • cyfrifiaduron gyda mynediad i’r rhyngrwyd, meddalwedd Microsoft Office ac argraffu lliw
  • gwasanaeth ffacs
  • gwasanaeth llun-gopïo (Llyfrgelloedd Amlwch, Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy)
  • gwasanaeth gwybodaeth gan gynnwys mynediad at gyfeirlyfrau busnes ayyb

Am wybodaeth bellach am y gwasanaethau hyn, dilynwch y linciau ‘gweler hefyd’ priodol ar waelod y dudalen hon.

Pobl ar wyliau

Os ydych yma ar wyliau, gallwch fenthyg eitemau o unrhyw un o’n llyfrgelloedd. Y cwbl yr ydych angen ei wneud yw dod â’ch cerdyn llyfrgell o adref a llenwi ffurflen aelodaeth dros dro. Os ydych eisiau cysylltu â'ch teulu a ffrindiau, defnyddiwch un o'n cyfrifiaduron i anfon ebost am ddim.

Mae gennym gasgliad cynhwysfawr o wybodaeth am ble i fynd a beth i’w weld ar yr ynys. Bydd ein staff gwybodus yn hapus i’ch cynghori.

Mae cyfoeth o adnoddau hanes lleol i’r rhai sydd â diddordeb mewn hanes teulu neu eisiau  darganfod mwy am dreftadaeth a diwylliant diddorol Ynys Môn. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â beth sydd ar gael, dilynwch y linciau ‘gweler hefyd’ ar waelod y dudalen hon i’r tudalennau astudiaethau lleol ac archifau.


Gweler Hefyd

  • Cofnodion ac archifau

    Os ydych eisiau dilyn hanes eich cartref, darganfod gwreiddiau eich bro neu ddilyn trywydd hanes eich teulu, bydd ein staff cyfeillgar a gwybodus yn eich arwain a'ch cynorthwyo drwy ein casgliadau o ddogfennau hanesyddol.

  • Cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd

    Mae'n bosibl defnyddio'r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim ym mhob llyfrgell gyhoeddus ar Ynys Môn gan gael mynediad at gyfoeth o wybodaeth.

  • Gwasanaeth gwybodaeth

    Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i ateb eich ymholiadau, neu o leiaf i'ch cyfeirio i'r cyfeiriad cywir. Gallwn ateb nifer o gwestiynau'n sydyn trwy ddefnyddio'n hadnoddau ein hunain a byddem yn fwy na pharod i gysylltu â llyfrgelloedd neu sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill ar eich rhan.

  • Astudiaethau lleol

    Os ydych yn chwilio am wybodaeth leol ac yn cael anhawster dod o hyd i atebion, yna cofiwch ein bod ni yma i'ch cynorthwyo a'ch arwain at ffynonellau defnyddiol.

  • Ymweld ag Ynys Môn ar fusnes

    Ynys Môn yw'r lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau busnes o bob math oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth gwych a'r ystod eang o westai, bwytai a chyfleusterau cynnal cynadleddau.

Safleoedd Gwe Perthnasol

Diwygiad Diweddaraf: 27/05/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057